P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion
P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Megan Tudor, ar ôl casglu 84
o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wella'r driniaeth a
roddir i oedolion mewn gwasanaethau iechyd meddwl gan ganolbwyntio'n benodol ar
wella gwasanaethau yn y gymuned, fel y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, adrannau
damweiniau ac achosion brys, gwasanaethau i gleifion mewnol a gwasanaethau
ambiwlans.
Yn rhy aml, mae'r gwasanaethau
iechyd meddwl wedi siomi oedolion. Mae'n warthus meddwl bod miloedd o oedolion
bob dydd yn cael eu troi o'r neilltu pan fyddant yn crefu am gymorth. Cael eich
derbyn i'r ysbyty a'ch asesu'n gyflym gan seiciatrydd sy'n dweud y dylech
'wneud rhywbeth i dynnu'ch sylw oddi wrth eich problemau, a byddwch yn iawn' a
chael eich anfon adref.
Rwy'n deall y bu toriadau mawr i'r
gwasanaethau hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond a dweud yn gwir
mae'n annerbyniol. Ni ddylid rhoi pris ar iechyd meddwl rhywun. Dylid rhoi
gofal o'r un lefel i iechyd meddwl ag i iechyd corfforol.
Pam mae mwy o gefnogaeth ar gyfer
plant sy'n dioddef o iechyd meddwl? Mae cymorth ar gael i blant ar ôl iddynt
gael eu derbyn i'r ysbyty, ond nid oes dim ar gyfer oedolion. Efallai y gwneir
addewidion y byddant yn derbyn cymorth gan wasanaethau penodol, ond mae'r
addewidion yn mynd i'r gwellt yn gyflym. Rwy'n ffieiddio at y straeon erchyll
rwyf wedi'u clywed gan bobl yn y system. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y diffyg
gofal ar gyfer oedolion sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael. Mae angen i hyn
newid ac mae angen iddo newid yn gyflym. Nid wyf yn fodlon sefyll o'r neilltu
mwyach a gwylio hyn yn digwydd.
Rwyf am weld newidiadau enfawr yn y
ffordd y mae cleifion sy'n oedolion yn cael triniaeth a chymorth. Dylai pob
gwasanaeth gydlynu â'i gilydd i ddarparu'r gofal gorau posibl. Ar hyn o bryd
mae'r trefniadau cyfathrebu rhwng gwasanaethau yn ddiffygiol, gan adael y claf
heb gefnogaeth. Os oes angen gwasanaethau brys ar gleifion, mae angen i
rywfaint o gymorth dilynol fod ar gael pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae'r
rhan fwyaf o'r gwasanaethau ar agor rhwng 9am a 5pm, ond nid yw iechyd meddwl
yn diflannu am 5pm ac mae angen mwy o gymorth hygyrch ar ôl yr oriau arferol.
Rwyf am weld mwy o ofal gan staff hefyd. Efallai eu bod wedi cael yr
hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer eu swydd ond nid oes empathi a pharch i'w
gweld yn unman. Mae'n bryd i bethau newid.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Iawn, beth am
sgwrsio. Gall iechyd meddwl fod yn dipyn o bwnc tabŵ o hyd, ond arhoswch
gyda mi am funud. Rwyf am i chi ddychmygu teimlo'n hollol ar goll, yn wag ac
heb reswm i fyw. Rydych am i'r boen ddod i ben felly rydych chi'n cymryd cam anoddaf
eich bywyd; rydych yn gofyn am help. Yr unig beth rydych chi ei eisiau yw i
rywun gydnabod pa mor ddrwg yw eich poen a gwneud iddo ddiflannu.
Mae'r
meddygon/parafeddygon/heddlu/seiciatrydd yn dweud wrthych nad yw'n 'ddim byd i
boeni amdano, rhaid eich bod chi'n cael diwrnod gwael ac mae hynny'n beth
arferol'. Y gwir yw ei fod yn fwy na dim ond diwrnod gwael, rydych chi wedi
methu â dianc o'r lle tywyll hwn ers llawer mwy na hynny. Nid ydynt yn gwrando,
rydych chi'n mynd adref ac er nad oeddech yn meddwl ei bod yn bosibl, rydych
chi'n teimlo'n waeth nag oeddech cyn gofyn am help.
NID DYMA SUT
DYLAI PETHAU FOD! Dylai'r cymorth a'r gefnogaeth fod ar gael yn rhwydd i'r rhai
sydd eu hangen, ond nid felly y mae hi a dyna beth y mae angen ei newid. Os bydd
y ddeiseb hon yn gweithio, gallai achub miloedd o fywydau bob dydd. Dangoswch
eich cefnogaeth trwy lofnodi'r ddeiseb hon a'i rhannu. Mae'n rhaid i bethau
newid.
Stethosgop
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/02/2020 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
O ystyried bod y Pwyllgor wedi
cyhoeddi adroddiad ar
wella gwasanaethau iechyd meddwl ac wedi gwneud argymhellion a dderbyniwyd gan
Lywodraeth Cymru, ac oherwydd na chafwyd unrhyw sylwadau pellach gan y
deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar Cafodd ei thrafod gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 27/06/17.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/06/2017
Dogfennau