P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i anog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Byrddau Iechyd yn gweithredu’r buddsoddiad a gynigir yn Nogfen Weledigaeth Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru i wella gwasanaethau niwrogyhyrol arbenigol yng Nghymru.

 

Gwybodaeth ychwanegol: Mae Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru’n argymell y dylid blaenoriaethu’r datblygiadau canlynol: 1. Cynyddu nifer y Cynghorwyr Gofal Teulu a lefel y gefnogaeth. 2. Ffisiotherapyddion niwrogyhyrol arbenigol ar gyfer oedolion. 3. Penodi ymgynghorydd anhwylderau niwrogyhyrol ar gyfer oedolion. 4. Cynyddu seicoleg glinigol. 5. Cyllideb offer at bryniannau mân a threfniadau lesio.

 

Prif ddeisebydd: Muscular Dystrophy Campaign

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 4 Chwefror 2014

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/01/2014