Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Abigail Phillips Dirprwy Glerc: Sarita Marshall
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
||
Trafodaeth ynghylch y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
||
P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: Ysgrifennu at Fwrdd
Iechyd y Brifysgol yn gofyn am eglurhad ynghylch cyfarfodydd yn y dyfodol; Ysgrifennu at Gyngor
Caerdydd yn crynhoi trafodaethau’r Pwyllgor ac argymell fod y Cyngor yn parhau
i weithio gyda’r deisebwyr i ddatrys y problemau parcio; Cau’r ddeiseb (ac
eithrio’r ohebiaeth arferol at y deisebydd yn nodi’r rhesymau dros ei chau), yn
amodol ar y llythyron hyn, unwaith y bydd wedi cael eglurhad. |
||
P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy'r GIG Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: Aros nes i
ganllawiau Gweinidogol gael eu cyhoeddi ynglŷn â’r mater. |
||
P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: Aros am
argymhellion y Gweinidog ar ôl iddi ystyried adroddiad grŵp cynghori Cymru-gyfan ar osteoporosis ar
eu harchwiliad o ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt torri esgyrn, a fydd ar gael
yn y flwyddyn newydd. |
||
Deisebau newydd |
||
P-04-351 Adalw cynlluniau datblygu lleol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn am ei farn ynghylch y mater. |
||
P-04-352 Galwad i Achub Golchdy Stêm y Rhath Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: Ysgrifennu at
CADW a’r deisebwyr yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, ac ysgrifennu
at Gyngor Caerdydd a’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am eu
barn. |
||
P-04-353 Ymgyrch yn erbyn troseddau casineb yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: Ysgrifennu at y Gweinidog
Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
a’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn gofyn am eu barn ac
anfon copi at y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a
Chymunedau. |
||
P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: Ysgrifennu at y
Swyddfa Gyflwyno yn gofyn am gadarnhad o’r canllawiau ynghylch Datganiadau
Barn; Ysgrifennu at
Gadeirydd y Grŵp
Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a’r Prif Weinidog yn gofyn am eu barn. |
||
P-04-355 Cymru nid Wales Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: Ysgrifennu at y
Deisebydd yn ei gynghori nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol na Llywodraeth
Cymru y pŵer
i newid yr enw’n swyddogol. Ceisio cyngor
annibynnol ynghylch tarddiad y gair ‘Wales’. Ysgrifennu at y Prif
Weinidog a Chomisiwn y Cynulliad, wrth aros am ymateb y deisebydd, yn gofyn am
eu barn ynghylch newid yr enw’n answyddogol. |
||
P-04-356 Galwad i’r materion a osodwyd yn yr adroddiad ar bêl-droed yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2007 gael eu hadolygu. Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. |
||
P-04-357 Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am ei farn a chyngor cyfreithiol. |
||
P-04-359 Problemau gyda’r GIG ar gyfer y Byddar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gyhoeddi cais am dystiolaeth er mwyn deall maint y broblem yn well a chyfeirio tystiolaeth i’r grŵp trawsbleidiol ar faterion yn ymwneud â phobl fyddar. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-03-227 Yn erbyn ffordd fynediad arfaethedig Metrix yn Llanmaes Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Gau’r ddeiseb o ganlyniad i lythyr y Gweinidog sy’n nodi nad oes cynlluniau i fwrw ymlaen â’r ffordd arfaethedig. |
||
P-03-252 Gwrthwynebu ffordd fynediad ogleddol canolfan y Llu Awyr Brenhinol, Sain Tathan (trigolion Trebefered) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
i: Gau’r ddeiseb o ganlyniad i lythyr y Gweinidog sy’n nodi nad oes cynlluniau i fwrw ymlaen â’r ffordd arfaethedig. |
||
P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn iddi hysbysu’r Pwyllgor o unrhyw ddatblygiadau pellach unwaith y bydd cynllun cyflenwi lleol wedi’i ddatblygu. Ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo barhau i adolygu’r mater. |
||
P-03-308 Achub Theatr Gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn datgan pryderon y Pwyllgor Deisebau ac i anfon gohebiaeth yr Archwilydd Cyffredinol ymlaen atynt i’w ystyried. Gau’r ddeiseb tra fod hyn yn mynd rhagddo. |
||
P-03-311 Theatr Spectacle Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
i: Ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn datgan
pryderon y Pwyllgor Deisebau ac i anfon gohebiaeth yr Archwilydd
Cyffredinol ymlaen atynt i’w ystyried. Gau’r ddeiseb tra fod hyn yn mynd rhagddo. |
||
P-03-314 Achub Theatr Powys a Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
i: Ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn datgan
pryderon y Pwyllgor Deisebau ac i anfon gohebiaeth yr Archwilydd
Cyffredinol ymlaen atynt i’w ystyried. Gau’r ddeiseb tra fod hyn yn mynd rhagddo. |
||
P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cwn Bach yn Ne-Orllewin Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Gyfeirio’r ddeiseb i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gyda’r posibilrwydd iddo ei chynnwys yn ei flaenraglen waith. |
||
P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Aros am ymateb gan y deisebwyr am y mater hwn. |
||
P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Gyfeirio’r ddeiseb i’r pwyllgor a fydd yn craffu ar y Bil ieithoedd swyddogol, unwaith i’r Pwyllgor Busnes ddod i benderfyniad am hyn. |
||
10.30-11.00 |
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth lafar Gweinidog dros
Lywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant AM |
|
P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater. |
||
P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater hwn a chytunodd i rannu’r cofnod o ddamweiniau gyda’r Pwyllgor. |
||
P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater hwn a chytunodd i rannu’r data o’r astudiaeth o dagfeydd traffic cynt ac wedyn gyda’r Pwyllgor. Bydd hwn ar gael fis nesaf. |
||
P-04-319 Deiseb ynghylch traffig yn y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater a chytunodd i rannu’r data o’r astudiaeth o dagfeydd traffic cyn ac ar ôl gyda’r Pwyllgor, a fydd ar gael fis nesaf. |
||
Papurau i'w nodi |
||
P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |