P-04-356 Galwad i’r materion a osodwyd yn yr adroddiad ar bêl-droed yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2007 gael eu hadolygu.

P-04-356 Galwad i’r materion a osodwyd yn yr adroddiad ar bêl-droed yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2007 gael eu hadolygu.

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu cynnwys adroddiad 2007 y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, ‘Pêl-droed yng Nghymruadolygiad’.

 

Ym mis Mawrth 2011, pleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif llethol dros ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru. Un o’r meysydd hyn oedd chwaraeon a hamdden. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r pwerau hyn nad oedd ar gael yn 2007 ac i adolygu’r adroddiad gwreiddiol. Mae’n rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod yn atebol i bobl Cymru a chynnig gwerth am arian i bobl Cymru. Rydym am i Lywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a FIFA i sicrhau bod hynny’n digwydd.

 

Prif ddeisebydd:

Stuart Evans

 

Nifer y deisebwyr:

96

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014