Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Naomi Stocks Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09.00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones AC, a dirprwyodd Bethan Jenkins AC ar ei rhan. |
|
09.00 - 09.20 |
Deisebau newydd |
|
P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at: · y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol i gael ei barn ar y ddeiseb; a · Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn gofyn a yw’n teimlo bod ganddo gyllideb ddigonol i weithredu gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro ac a oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar y clinig presennol. |
||
P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio! Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ofyn eu barn ar y ddesieb, gofyn pa ymgynghoriad sydd wedi cael ei gynnal, sut y bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i ddatblygu cynlluniau a phryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch gwasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. |
||
P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ofyn ei barn ar y ddeiseb, gofyn pam nad yw Uned Mân Anafiadau Ysbyty’r Barri yn cynnig gwasanaeth 8 awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos, a gofyn sut y mae’r uned wedi’i staffio. |
||
P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ofyn pa ymgynghoriad sydd wedi’i gynnal, sut y bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i ddatblygu cynlluniau a phryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. |
||
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon, a chytunodd i ysgrifennu at: · y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; · y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol; · Comisiynydd Plant Cymru; a · Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gael eu barn ar y ddeiseb. Gall y Pwyllgor wneud darn byr o waith ar y ddeiseb hon yn dibynnu ar yr ymatebion sy’n dod i law. |
||
P-04-453 Gwelliannau ym Maes Awyr Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn eu barn ar y datblygiadau diweddar o ran y maes awyr, ac a yw’r datblygiadau hyn yn bodloni eu gofynion.
|
||
P-04-454 Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: · y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn ei farn ar y ddeiseb, a gofyn a oes ganddo unrhyw gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth neu ddigwygio deddfwriaeth bresennol; · y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol; · Comisiwn y Cynulliad; · y Cwnsler Cyffredinol, i gael eu barn ar y ddeiseb a: · gofyn am bapur briffio cyfreithiol ar y ddeiseb. |
||
P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i’r cais am ragor o wybodaeth am sut y mae’r broses ymgynghori wedi llywio’r broses o wneud penderfyniad. |
||
09.20 - 10.00 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at: · Lywodraeth y DU i ofyn a oes unrhyw drafodaethau wedi’u cynnal â Llywodraeth Cymru; · y deisebwyr i geisio eu barn ar ymateb y Prif Weinidog; ac · Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau i gael ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-434 Mae’r Cymry a’r Somalïaid fel ei gilydd yn caru barddoniaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, ac yng nghyd-destun yr ymateb hwn, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb. Diolchodd y Pwyllgor i’r Llywydd am ymateb mor gadarn i’r ddeiseb. |
||
P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i ofyn: · bod pob eglwys annibynnol yn rhan o waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen; · pryd y mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn disgwyl cwblhau ei waith; a · bod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd. |
||
P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn i’r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), ei fod yn cael amserlen ar gyfer ystyried y Bil a bod trawsgrifiadau o unrhyw drafodaethau perthnasol yn cael eu hanfon ato. |
||
P-03-187 Diddymu’r Tollau ar ddwy Bont Hafren Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar effaith economaidd y Tollau ar ddwy Bont Hafren a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn pa gamau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd yn dilyn cyhoeddi’r astudiaeth, gyda’r bwriad o gau’r ddeiseb unwaith i’r wybodaeth hon ddod i law. |
||
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn i’r Pwyllgor gael gwybod pan fydd penderfyniad ar gyllid wedi cael ei wneud. Oherwydd bod ffordd osgoi flynyddoedd i ffwrdd, bod y Pwyllgor hefyd yn gofyn a ellir gwneud gwaith yn y cyfamser i helpu i leddfu pryderon ynghylch diogelwch llwybrau troed a chroesfannau. Nododd Joyce Watson y byddai’n fodlon ymweld â Chyngor Cymuned Llanddewi Felffre. |
||
P-04-345 Cysylltiadau bws a rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin Dogfennau ategol: |
||
P-04-429 Ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddwy ddeiseb. Oherwydd ymateb Llywodraeth Cymru a’r diffyg cefnogaeth ar gyfer agor y rheilffordd, cytunwyd y dylid cau’r ddwy ddeiseb. |
||
P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
i ysgrifennu at: · y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i rannu’r wybodaeth a gafwyd gan y deisebwr, nodi’r cyfnod hir y mae’r Pwyllgor wedi bod yn aros am ymateb a nodi’r anawsterau y mae hyn yn eu creu o ran galluogi’r Pwyllgor i ystyried y ddeiseb; ac · Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, i ofyn a oes ganddynt unrhyw gynlluniau a chyllid digonol i ddwyn y cynllun hwn ymlaen. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor
i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau i’r deisebwr.
|
||
P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at: · Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn egluro’r hyn y mae’r deisebwr yn gofyn amdano, a gofyn a yw hyn yn newid ei farn mewn perthynas â’r ddeiseb; a · Chomisiynydd y Gymraeg yn ceisio ei barn ar y materion sy’n cael eu codi gan y deisebwr. |
||
P-04-376 Aildrefnu Addysg ym Mhowys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb. Oherwydd datblygiadau diweddar, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb. |
||
P-04-427 Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at: · Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn a yw’n teimlo bod y ddeddfwriaeth bresennol yn gwarchod siaradwyr Cymraeg yn ddigonol, a pha fesurau pellach sydd eu hangen, os o gwbl; a’r · Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn iddi egluro a all y Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth o’r fath. |
||
P-04-437 Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth Weinidogol am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor unwaith y bydd penderfyniad ar y ffordd ymlaen wedi cael ei wneud. |
||
P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth Weinidogol am y ddeiseb, a chytunodd i: · geisio eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi; · ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a nodi tystion posibl i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor; · ysgrifennu at y deisebwyr a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn iddynt gyflwyno tystiolaeth; · gwahodd Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru i roi tystiolaeth lafar; a · nodi awdurdodau lleol sy’n dangos arfer da yn y maes hwn, a’u gwahodd i roi tystiolaeth lafar. |
||
P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, yn gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganfyddiadau’r ymgynghoriad a sut y bydd y rhain yn effeithio ar weithredu rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd. |
||
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i: · ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am eglurhad o sut y mae’n bwriadu dwyn mater teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn ei flaen a’r amserlen ar gyfer gwneud hynny; a · chomisiynu papur ymchwil ar sut yr ymdrinir â’r mater hwn ledled Ewrop. |
||
10.00 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 Cofnodion: Cytunwyd ar y cynnig. |
|
10.00 - 10.15 |
P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru: Materion allweddol Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ynghylch sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru a chytunodd ar gyfeiriad adroddiad. |
|
10.15 - 10.30 |
Derbynioldeb – materion nad ydynt wedi’u datganoli Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y broses o ganiatáu deisebau, a chytunodd i drefnu cyfarfod â’r Llywydd i drafod y broses hon ymhellach. |
|
Papurau i'w nodi Ymatebion i’r ymgynghoriad ar P-04-410 Cofeb Barhaol i Weithwyr Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y papurau eu nodi. |
||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |