P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg

P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i achub ein gwasanaethau iechyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

 

Mae penderfyniad yn cael ei wneud a fydd, os caiff ei roi ar waith, yn arwain at golli rhai agweddau ar ofal pediatrig, obstetreg, newydd-anedig a damweiniau ac achosion brys.  Yn syml, os oes angen gofal dwys arnoch, os oes gennych blentyn sâl neu os ydych yn debygol o gael beichiogrwydd a allai fod yn gymhleth, bydd rhaid i chi deithio i Gaerdydd, Merthyr neu Ben-y-bont ar Ogwr.   I breswylwyr Rhondda Cynon Taf sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallai hyn olygu teithio am dros ddwy awr i fynd i apwyntiadau hanfodol.  Mae preswylwyr Rhondda Cynon Taf sydd wedi llofnodi isod yn cefnogi’n gryf opsiwn 5.2 o dan y cynigion a amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau iechyd, “Gwneud Cystal â Goreuon y Byd — yr Heriau sy’n Wynebu Gwasanaethau Ysbyty yn Ne Cymru”. Rydym hefyd yn cefnogi’r galw i gadw a datblygu cyfleusterau a gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg i sicrhau bod pobl Rhondda Cynon Taf yn gallu derbyn a chael gafael ar y gwasanaethau y maent yn eu haeddu o fewn ffiniau’r sir.

 

Prif ddeisebydd: Cyng. Mark Adams

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Ionawr 2013

 

Nifer y llofnodion:  1077

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2016