P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio!

P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio!

Ddydd Mercher 26 Medi 2012, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg newidiadau a allai gael effaith radical ar sut mae ein gwasanaethau ysbyty yn cael eu darparu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Er nad oes unrhyw beth yn bendant, mae’n debygol, os caiff y newidiadau eu rhoi ar waith, o arwain at golli rhai agweddau ar ofal pediatrig, obstetreg, newydd-anedig a damweiniau ac achosion brys. Yn syml, os oes arnoch angen gofal dwys, os oes gennych blentyn sâl neu os ydych yn debygol o gael beichiogrwydd a allai fod yn gymhleth, bydd raid i chi deithio i Gaerdydd, Abertawe neu un o’r Safleoedd Gwasanaethau Arbenigol eraill yn Ne Cymru.  Mae poblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn tyfu o hyd; felly, rydym angen mwy, nid llai, o wasanaethau lleol. Rydym yn condemnio cynlluniau Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg yn chwyrn, ac yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn gwario mwy o’i chyllid ar gynnal y gwasanaethau lleol hanfodol hyn yn hytrach na pheryglu bywydau’r cleifion sy’n fwyaf agored i niwed. Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau yn Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr a sicrhau bod yr ysbyty yn cadw’r holl wasanaethau hanfodol hyn heb orfod israddio.

 

Prif ddeisebydd: Ian Matthew Spiller

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Ionawr 2013

 

Nifer y llofnodion:  4,218. Casglwyd deiseb gysylltiedig 154 o lofnodion.

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013