P-04-434 : Mae’r Cymry a’r Somalïaid fel ei gilydd yn caru barddoniaeth
Geiriad y ddeiseb
Cynnig: Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru, sef cenedl sy’n enwog yn
fyd-eang am garu barddoniaeth, i ganmol y cariad tebyg ymysg
ei dinasyddion o dras Somalïaidd yn hynny o beth,
y mae eu diwylliant traddodiadol yn ystyried mai
barddoniaeth yw’r dull craidd o fynegi mewn diwylliant. Daw ein galwad ar ddechrau’r
Cadoediad Olympaidd, sef y cyfnod a arferai ddechrau wythnos cyn y Gemau
Olympaidd yn yr hen oes, a gorffen
wythnos ar ôl iddynt ddod
i ben, gan alluogi athletwyr i deithio’n ddirwystr drwy diroedd gelynion traddodiadol i gystadlu yn unol ag
ymdeimlad ekecheiria, sef dal dwylo. A ninnau’n ddinasyddion Cymru, yn caru barddoniaeth, ac wedi ymrwymo i ymdrechu i sicrhau heddwch ym mhob
gwlad, a rhwng y gwledydd, rydym yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sydd, yn ein barn ni,
yn uno’r gwerthoedd hyn. Rydym yn gwahodd pawb
i ychwanegu eu henw at y ddeiseb, a gobeithiwn y byddwch yn hyrwyddo cysylltiadau
rhwng cymunedau yn ein dwy
wlad.
Prif ddeisebydd: Mr Abdikarim Abdi Adan
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 6 Tachwedd
2012
Nifer y llofnodion: 30
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;