P-04-429 Ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth
P-04-429 Ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn
galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.
Rydym o’r farn bod hyn yn
hanfodol ar gyfer cymunedau lleol ac economi Cymru oherwydd bydd yn
galluogi pobl a gwasanaethau i gael eu cludo i ardaloedd
sydd wedi’u hynysu fel arall.
Bydd hyn
yn cefnogi’r economïau lleol ac yn creu cyswllt
teithio llyfnach rhwng y Gogledd a’r De. Ar hyn o bryd,
mae’n rhaid teithio drwy Loegr
er mwyn cael
cysylltiadau trên rhwng y Gogledd a’r De.
Prif ddeisebydd: Mark Worrall
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 6 Tachwedd
2012
Nifer y llofnodion: 1191
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;