P-04-427: Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg

P-04-427: Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg oherwydd teimlwn nad yw’r cyfreithiau presennol yn mynd yn ddigon pell o ran diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg. Ar hyn o bryd, nid oes gofyn i’r sector preifat gael cynlluniau na pholisïau iaith Gymraeg ac nid oes yn rhaid iddo drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Er bod gan siaradwyr Cymraeg fwy o hawliau bellach, mae angen iddynt gael yr hawl i allu defnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar eu bywyd dyddiol.

Prif ddeisebydd:  Gethin Kurtis Sugar

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  16 Hydref 2012

 

Nifer y llofnodion:  93

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried