P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip
P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Angharad Howells, ar ôl
casglu 1,038 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn bwriadu israddio neu gau’r
gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Mae hwn yn
wasanaeth hanfodol i Lanelli a’r cymunedau lleol a rhaid i’r gymuned weithredu
i achub ein Hadran Ddamweiniau ac Achosion Brys. Llofnodwch y ddeiseb hon i
atal y gwasanaeth hanfodol hwn rhag cau, ac i sicrhau nad yw bywydau yn y
fantol o ganlyniad i gam o’r fath.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/04/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio
ers i'r deisebydd gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/01/2013.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Llanelli
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2017