Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/10/2025 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

Datganodd y Cadeirydd fuddiant o dan Reol Sefydlog 17.24A ynghylch eitem 2.6 - deiseb P-06-1521 - gan fod y deisebydd yn gyflogai.

 

2.

Deisebau newydd

5.1

P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i wneud cais i’r Pwyllgor Busnes am ddadl ar y ddeiseb.

 

2.1

P-06-1543 Cadwch uned mân anafiadau Aberteifi ar agor ar benwythnosau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr achos busnes sy'n cael ei ddatblygu, ac i gadw'r ddeiseb ar agor tra’n aros am y diweddariad hwnnw. Roedd hyn yn ychwanegol at y cyfle i’r Aelodau godi’r ddeiseb hefyd yn ystod y ddadl ar y ddeiseb ar wahân P-06-1538 yn ymwneud â gwasanaethau strôc yn Ysbyty Bronglais.

 

2.2

P-06-1544 Dylid cymryd camau brys i wella'r GIG yng Ngorllewin Cymru, a mynd i'r afael â'r argyfwng yn Ysbyty Glangwili.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau fod y ddeiseb hon a'r materion a godwyd ynddi yn gysylltiedig â'r ddwy ddeiseb flaenorol, a bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn craffu ar y bwrdd iechyd.  Cytunwyd i dynnu sylw’r Pwyllgor hwnnw at y ddeiseb, ac hefyd i ysgrifennu at y bwrdd iechyd gyda’r pryderon a fynegwyd gan y deisebydd. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor tra’n aros am yr ymateb, fodd bynnag nodwyd na allai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb lawer ymhellach na hynny, gan mai mater i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Aelodau lleol oedd craffu arni a gofyn cwestiynau i'r bwrdd iechyd.

 

2.3

P-06-1514 Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwiliad Cymru gyfan i gamfanteisio rhywiol gan gangiau meithrin perthynas amhriodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau fod y ddeiseb wedi cael ei disodli gan ddigwyddiadau oherwydd ar yr adeg y dechreuodd nid oedd ymchwiliad i Gymru a Lloegr. Roedd cyfyngiadau ar yr hyn y byddai ymchwiliad i Gymru yn unig yn gallu ei gwmpasu, oherwydd materion nad oeddent wedi'u datganoli, ac roedd disgwyliad clir y byddai materion Cymru yn cael eu hystyried, ac yn benodol materion camfanteisio trawsffiniol, yn ymchwiliad Cymru a Lloegr. Cytunwyd i gau'r ddeiseb. Drwy wneud hynny, diolchwyd i'r deisebydd am ei dewrder wrth gyflwyno'r mater a sicrhawyd ei bod yn cael ei chymryd o ddifrif.

 

2.4

P-06-1518 Dylid darparu cymorth iechyd meddwl mwy amserol a hygyrch i blant o dan 10 mlwydd oed, gan gynnwys drwy atgyfeirio at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am godi mater pwysig iawn sydd wedi derbyn llawer o sylw trawsbleidiol, ond cytunwyd mai'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg oedd yn y sefyllfa orau i graffu ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Ar y sail honno, penderfynodd y Pwyllgor gau'r ddeiseb a thynnu sylw’r Pwyllgorau hynny at y ddeiseb.

 

2.5

P-06-1521 Rhoi’r hawl i breswylwyr cartrefi mewn parciau yng Nghymru gael mesurydd dŵr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ailadroddodd y Cadeirydd ei datganiad cynharach o fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24A gan fod y deisebydd yn cael ei gyflogi'n rhan-amser yn ei swyddfa. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Dŵr Cymru i ofyn beth yr oedd yn ei wneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa ar y safle hwn, ac i ysgrifennu hefyd at Ofwat i ofyn am ei farn, a oedd yn ymwybodol o sefyllfaoedd tebyg a beth fyddai ei gyngor fel arfer. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor tra'n aros am yr ymatebion hynny.

 

2.6

P-06-1526 Achub chwaraeon ar lawr gwlad – Rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Llongyfarchwyd y deisebydd ar lwyddiant y ddeiseb yn dilyn gwrthdroi penderfyniad Cyngor Caerffili ar ffioedd lleiniau. Cytunwyd i gau'r ddeiseb. Drwy wneud hynny, nodwyd y materion ehangach sy'n wynebu chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru, ac felly cytunwyd hefyd i ysgrifennu at Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd i dynnu sylw at y materion hynny, ac i dynnu sylw hefyd at y mater ehangach a godwyd gan y ddeiseb gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

 

2.7

P-06-1535 Gwahardd rhwydi plastig mewn tyweirch glaswellt yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Diolchwyd i'r deisebydd am ddefnyddio'r broses ddeisebu i godi'r mater. Cytunwyd i gau'r ddeiseb, gan nodi, os nad oedd y deisebwyr yn fodlon ar y safbwynt polisi adnoddau naturiol a ailddatganwyd ac a nodir gan Lywodraeth Cymru, y byddent yn cael y cyfle i godi'r mater eto yn y Senedd nesaf.

 

2.8

P-06-1545 Rhoi'r gorau i orfodi plant ysgol i ddadwisgo o flaen staff/cyfoedion mewn ystafelloedd newid 'agored'.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd i amlygu sylwadau, cwestiynau ac argymhellion y deisebwyr gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chadw'r ddeiseb ar agor tra'n aros am ymateb.

 

 

2.9

P-06-1546 Dylai Llywodraeth Cymru ariannu ffordd liniaru Llanbedr!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y dylai astudiaeth o opsiynau cynllun ffyrdd gael ei chwblhau yn yr hydref a byddai datblygu achos busnes ar ôl hynny yn cymryd peth amser, a hefyd bod disgwyl i brosesau gwneud penderfyniadau gael eu datganoli i Bwyllgor Cydweithredol Corfforaethol Gogledd Cymru. Roedd mwyafrif o blaid cadw'r ddeiseb ar agor am y tro i aros am ganlyniad yr astudiaeth, ac yna sicrhau bod y deisebydd yn cael y llwybr cywir i fynegi ei bryderon i'r awdurdodau lleol a fyddai'n gwneud y penderfyniadau hynny ar ei gynllun buddsoddi. 

 

2.10

P-06-1547 Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n bywyd gwyllt morol!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd fel y'u nodir yn ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet, a chytunwyd i ofyn i'r deisebydd pa ymgysylltiad yr oedd wedi'i gael fel rhanddeiliad yn y gwaith o’u datblygu. Ac i ofyn i'r Gweinidog am fanylion pellach ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Rheoli Cregyn y Brenin. Bydd y ddeiseb yn cael ei chadw ar agor wrth aros am yr ymateb hwnnw.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1288 Byddai agor Gorsaf Gerdded ym Magwyr a Gwndy, sy'n rhan o Raglen Gyflenwi yr Arglwydd Burns, yn llwyddiant cyflym.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawyd bod argymhellion Comisiwn Burns bellach yn symud i'r cyfnod cyflawni gyda chyllid wedi'i nodi, a bod ymrwymiadau ynghylch cyflawni'r rhwydwaith yn debygol o ymddangos ym maniffestos etholiad y Senedd. Felly, diolchodd yr Aelodau y deisebydd am ei ddiddordeb parhaus a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

3.2

P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru?

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd bod y ddeiseb bellach wedi dod i ddiwedd ei thaith gyda'r Pwyllgor Deisebau. Diolchodd yr Aelodau y deisebydd am ei ymgysylltiad gweithredol yn codi’r mater, a chaeodd y ddeiseb.

 

3.3

P-06-1378 Rydym am i gymorthdaliadau fferm gael eu hymestyn i arddwyr bach a garddwyr marchnad.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Llongyfarchwyd y deisebydd ar lwyddiant y ddeiseb hon, gyda chynrychiolwyr o'r sector garddwriaeth yn rhan o'r grŵp rhanddeiliaid ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dilyn yr ohebiaeth â'r Ysgrifennydd Cabinet. Nodwyd y cyfeiriadau niferus at y sector garddwriaeth yn y Cynllun terfynol. Cytunwyd i gau'r ddeiseb nawr.

 

3.4

P-06-1505 Adolygu Fformiwla Carr Hill yng Nghymru - y system ariannu ar gyfer gofal sylfaenol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bellach yn cynnal ymchwiliad i wasanaethau meddygon teulu – disgwylir adroddiad yn y Flwyddyn Newydd. Cytunwyd i gau'r ddeiseb a chyfeirio'r deisebydd at yr ymchwiliad hwnnw i rannu unrhyw dystiolaeth bellach i gynorthwyo'r gwaith hwnnw.

 

3.5

P-06-1530 Achub Darpariaeth Gofal Plant yng Nghymru – Galw am Gyllido Teg a Phroses Deg i Ddarparwyr a Rhieni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunwyd i amlygu sylwadau'r deisebydd gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fel y pwyllgor craffu priodol, a chyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, gan ofyn i Lywodraeth Cymru ymgysylltu'n uniongyrchol â'r deisebydd i fynd i'r afael â'i sylwadau pellach.

 

4.

P-06-1497 Rhoi terfyn ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer arbrofi ar anifeiliaid a chyfeirio arian at dechnolegau modern sy’n berthnasol i bobl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cynnig gweithdrefnol.