P-06-1526 Achub chwaraeon ar lawr gwlad – Rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy!

P-06-1526 Achub chwaraeon ar lawr gwlad – Rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy!

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Craig Roch, ar ôl casglu 398 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae chwaraeon ar lawr gwlad dan fygythiad ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a thu hwnt. Mae ein cyngor lleol yn ceisio mantoli'r cyfrifon trwy godiadau uwch na chwyddiant i ffioedd lleiniau, gan roi baich annheg ar glybiau cymunedol. Daw hyn er bod cyfleusterau fel Abercarn Welfare mewn cyflwr dychrynllyd y tymor hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae gwirfoddolwyr eisoes yn rhoi o’u hamser a’u hymdrech i gadw chwaraeon ar lawr gwlad yn fyw—pam y dylid disgwyl iddynt lenwi’r bwlch ariannu a adawyd gan ein cynghorau? Os na all awdurdodau lleol gefnogi chwaraeon cymunedol mwyach, rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy i sicrhau bod y clybiau hanfodol hyn yn goroesi.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud fel a ganlyn:

Darparu arian brys i dalu ffioedd cynyddol am leiniau

🏉 Datblygu strategaeth hirdymor i amddiffyn clybiau chwaraeon cymunedol

🏏 Dal cynghorau yn gyfrifol am gynnal a chadw cyfleusterau chwaraeon

Heb weithredu, bydd clybiau’n dod i ben, cyfleoedd i chwaraewyr ifanc yn diflannu, a chwaraeon ar lawr gwlad yn dioddef. Llofnodwch y ddeiseb hon i fynnu cefnogaeth frys ar gyfer dyfodol ein cymunedau!

#SaveOurSports #FundGrassroots #FairPlayForClubs

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 06/10/25 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/10/25. 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

  • Islywn
  • Dywrain De Cymru

 

[PetitionFooter]

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2025