P-06-1544 Dylid cymryd camau brys i wella'r GIG yng Ngorllewin Cymru, a mynd i'r afael â'r argyfwng yn Ysbyty Glangwili.
P-06-1544 Dylid cymryd camau brys i wella'r GIG yng Ngorllewin Cymru, a mynd i'r afael â'r argyfwng yn Ysbyty Glangwili.
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Christine Castle, ar ôl casglu cyfanswm o 1,304 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae lleihau/cau
gwasanaethau mewn ysbytai eraill ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda wedi achosi argyfwng
yng Nglangwili. Mae cleifion yn gorfod teithio pellteroedd mawr i gyrraedd
gofal brys, gan felly gynyddu dibyniaeth ar ambiwlansys.
Nid yw'r Uned
Penderfyniadau Clinigol (CDU) bellach yn weithredol fel Uned Penderfyniadau
Clinigol go iawn ac mae'n gweithredu fel ward, gyda chleifion sâl yn cael eu
gorfodi i gysgu mewn cadeiriau yn yr Uned honno neu i aros mewn adrannau
damweiniau ac achosion brys gan nad oes lle ar ward i'w derbyn i’r ysbyty. Mae
staff y GIG yn gwneud eu gorau ond mae'r sefyllfa'n anghynaladwy.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 26/01/2026 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/10/25.
Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/09/2025