P-06-1547 Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n bywyd gwyllt morol!

P-06-1547 Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n bywyd gwyllt morol!

Petitions3

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu 297 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae ffilm ddogfen ddiweddaraf Syr David Attenborough, Oceans, yn tynnu sylw at y ffaith syfrdanol fod 97% o’n hardaloedd morol gwarchodedig – a grëwyd i ddiogelu cynefinoedd cefnforol – yn cael eu dinistrio trwy gael eu carthu a'u treillio ar wely’r môr.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd pob math o dreillio gwaelodol yn nyfroedd Cymru, gan longau tramor a'r DU fel ei gilydd. Rydym ni mewn argyfwng ecolegol ac mae angen gweithredu nawr.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Os na awn ati i gymryd camau nawr, ni fydd gennym unrhyw obaith o atal y broses erchyll o golli bioamrywiaeth, na lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

 

Mae'r arfer eang hwn o bysgota yn cynnwys llusgo rhwydi metel trwm ar hyd gwely'r môr, gan chwalu holl fywyd y môr sydd o’i flaen, i bob pwrpas!

Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod y system hon o bysgota yn allyrru un gigadunnell o garbon bob blwyddyn. Mae'r carbon hwn yn cael ei ryddhau o waddod gwely'r môr i'r dŵr, a gall gynyddur broses o asideiddio'r cefnforoedd, yn ogystal ag effeithio'n andwyol ar gynhyrchiant a bioamrywiaeth. Gwaddodion morol yw'r gronfa fwyaf o storio carbon yn y byd. Mewn gwirionedd, mae cychod pysgota sy'n treillio llawr y cefnfor yn rhyddhau cymaint o garbon deuocsid â'r diwydiant hedfan cyfan!

 

Does dim lle i dreillio gwaelodol mewn Cymru fodern sy’n gyfeillgar tuag at fyd natur!

 

A school of fish in the ocean

AI-generated content may be incorrect.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

[PetitionFooter]

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2025