P-06-1530 Achub Darpariaeth Gofal Plant yng Nghymru – Galw am Gyllido Teg a Phroses Deg i Ddarparwyr a Rhieni

P-06-1530 Achub Darpariaeth Gofal Plant yng Nghymru – Galw am Gyllido Teg a Phroses Deg i Ddarparwyr a Rhieni

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lisa Owen, ar ôl casglu 1,914 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae darparwyr gofal plant ledled Cymru mewn perygl o gau oherwydd model cyllido anghynaliadwy a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Nid yw'r cynlluniau cyfradd safonol yn talu gwir gostau darparu gofal plant ac ni chaniateir i ddarparwyr godi gwir gost gofal ar y rhiant pan fydd honno’n uwch na'r gyfradd a bennwyd. Gan fod pob lleoliad yn gweithredu'n wahanol, mae llawer yn gorfod rhedeg ar golled. Mae hyn er gwaethaf rheoliadau Llywodraeth Cymru sy’n nodi bod rhaid i'n busnesau fod yn gynaliadwy er mwyn diogelu ein plant.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Beth mae hyn yn ei olygu i chi:

Heb newid brys, bydd yn rhaid i lawer o Ddarparwyr Gofal Plant gau, gan adael gweithwyr gofal plant heb gyflogaeth.

Mae llai o ddarpariaeth gofal plant o ansawdd yn golygu llai o leoedd gofal plant, a rhestrau aros hirach, syn gadael teuluoedd yn methu â chael mynediad at ofal plant, gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant a lleoedd Dechrau'n Deg.

Maen bosibl y bydd yn rhaid i rieni dorri oriau gwaith neu adael swyddi oherwydd diffyg gofal plant a bydd y lleoedd hynny syn weddill yn codi ffïoedd uwch ar y rhieni syn talu wrth i Ddarparwyr Gofal Plant geisio adennill colledion.

Bydd plant yn colli mynediad at addysg blynyddoedd cynnar hanfodol syn llywio eu dyfodol, sef agwedd y mae Llywodraeth Cymru yn ei hyrwyddo wrth dynnu sylw at ei chynllun pan fydd yn ceisio ennill eich pleidleisiau.

Mae lleoliadau eisoes wedi cau!

Ni ddylai Darparwyr Gofal Plant orfod brwydro i oroesi. Ni ddylai teuluoedd orfod stryffaglu i ddod o hyd i ofal i'w plant. Os na weithredwn nawr, bydd dyfodol Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru yn wynebu risg ddifrifol.

 

A close-up of children holding hands

AI-generated content may be incorrect.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 06/10/25 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/07/25. 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2025