P-06-1497 Rhoi terfyn ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer arbrofi ar anifeiliaid a chyfeirio arian at dechnolegau modern sy’n berthnasol i bobl
P-06-1497 Rhoi terfyn ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer arbrofi ar anifeiliaid a chyfeirio arian at dechnolegau modern sy’n berthnasol i bobl
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Deborah Davies, ar ôl casglu 12,250 o lofnodion ar-lein a 1,681
o lofnodion ar bapur, sy'n golygu cyfanswm o 13,931 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Cafodd anifeiliaid
eu defnyddio dros 39,000 o weithiau yng Nghymru yn 2022, sy’n gynnydd o gymharu
â 2021. Fodd bynnag, mae arolygon barn yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn
erbyn ymchwil anifeiliaid, gan ffafrio technolegau newydd. (South Wales Argus,
mis Ebrill 2021)
Mae pedair
prifysgol yng Nghymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, ac Abertawe) yn cynnal
astudiaethau ar anifeiliaid. Ac eto, mae Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ymchwil
Feddygol (adroddiad ymchwiliad 2023) yn annog Llywodraeth Cymru i gynyddu ei
chyllid ar Ymchwil gysylltiedig ag Ansawdd i brifysgolion a chreu cymhelliant i’r sector er mwyn cronni buddion
economaidd.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Dylai ehangu
ymchwil feddygol heb graffu ar sut mae’r arian yn cael ei wario fod yn destun
pryder i bobl Cymru, gan mai trethiant yn bennaf sy’n talu am ymchwil a
ariennir yn gyhoeddus. Mae angen buddsoddi mewn gwyddoniaeth arloesol megis
systemau organ ar sglodyn, bioargraffu 3D a modelu cyfrifiadurol. Y technolegau
hyn, sy'n seiliedig ar fioleg ddynol, a fydd yn gallu rhoi hwb i'r economi,
cryfhau'r GIG a chyflawni ar gyfer cleifion. Ar wahân i’r dioddefaint maent yn
ei achosi, mae astudiaethau ar anifeiliaid yn annibynadwy ac yn gostus, gan
rwystro cynnydd meddygol yn hytrach na’i hyrwyddo.
O ystyried
addewid maniffesto Llywodraeth Lafur i bartneru â gwyddonwyr, y diwydiant, a
chymdeithas sifil i weithio tuag at ddileu profion ar anifeiliaid yn raddol,
mae i’w weld yn gyfle delfrydol i foderneiddio ymchwil yng Nghymru. Drwy graffu
ar sut mae ei chyfraniad ariannol yn cael ei ddefnyddio a chyfeirio arian at
ddulliau sy’n berthnasol i bobl, gall Llywodraeth Cymru osod esiampl ac annog y
diwydiant a’r sector elusennol i’w dilyn yn hynny o beth.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 28/04/2025 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 28/04/2025.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
·
Gŵyr
·
Gorllewin
De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/01/2025
Dogfennau
- Gohebiaeth gan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd i Cadeirydd - 20 Mehefin 2025
PDF 336 KB - Gohebiaeth gan is-Ganghellor Prifysgol Abertawe i Cadeirydd- 22 Gorffennaf 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 104 KB - Gohebiaeth gan is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth i Cadeirydd- 30 Gorffennaf 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 233 KB - Gohebiaeth gan Prifysgol Bangor i Cadeirydd - 15 Medi 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 41 KB