P-06-1505 Adolygu Fformiwla Carr Hill yng Nghymru - y system ariannu ar gyfer gofal sylfaenol

P-06-1505 Adolygu Fformiwla Carr Hill yng Nghymru - y system ariannu ar gyfer gofal sylfaenol

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Matthew Jones, ar ôl casglu 718 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Cyflwynwyd Fformiwla Carr Hill gyda’r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd yn 2004.

 

Mae wedi creu gwahaniaethau ariannu enfawr, anniogel, na ellir eu cyfiawnhau rhwng practisau, ac nid yw erioed wedi cael ei adolygu yng Nghymru.

 

Mae Cyngor Ymarfer Cyffredinol Lloegr yn awgrymu mai fformiwla ariannu newydd yw ei brif flaenoriaeth. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir yng Nghymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae Practisau Meddygon Teulu yn cael y rhan fwyaf o'u hincwm o nifer y cleifion sydd wedi cofrestru â hwy.

 

Mae Fformiwla Carr Hill - sy'n dibynnu ar ddata hanesyddol - yn neilltuo rhif rhwng 0.6 a 1.32 ar gyfer pob Practis Meddyg Teulu yng Nghymru.

 

Mae gan Bractis Meddyg Teulu cyffredin tua 10,000 o gleifion. Os oes gan y Practis Meddyg Teulu sgôr o 0.6 - yna dim ond ar gyfer 6000 o gleifion y bydd yn cael ei dalu. Tra, os oes ganddo sgôr o 1.32 - bydd yn cael ei dalu am 13,200.

 

Mae'r gwahaniaethau ariannu rhwng rhai Practisau Meddyg Teulu sy'n gofalu am yr un nifer o gleifion bellach yn agos iawn at £1,000,000. Mae hyn yn hurt ac yn gwbl annerbyniol.

 

Mae’n amser i Lywodraeth Cymru ddechrau edrych ar y data, adolygu’r dystiolaeth a dyrannu adnoddau’n briodol.

 

Mae’n nonsens parhau i arllwys arian i system lle nad oes unrhyw waith craffu ar sut y caiff ei ddosbarthu.

 

A person in a suit holding a calculator

Description automatically generated

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 06/10/25 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/07/25. 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·     Gogledd Caerdydd

·     Canol De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/01/2025