P-06-1378 Rydym am i gymorthdaliadau fferm gael eu hymestyn i arddwyr bach a garddwyr marchnad
P-06-1378 Rydym am i gymorthdaliadau fferm gael eu hymestyn i arddwyr bach a garddwyr marchnad
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Karen Schneider, ar ôl casglu 413 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn cael tua 50 y cant o’u hincwm o
gymorthdaliadau’r llywodraeth. Mae hyn yn golygu bod ganddynt ddigon o arian i
wneud bywoliaeth o ffermio a gallant barhau i dyfu bwyd. Mae'r rhan fwyaf o
ffermydd yn fawr ond mae ffermydd bach (1-5 hectar) yn fwy cynhyrchiol ac yn
tueddu i dyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer marchnadoedd lleol. Nid yw’r rhain
yn gymwys i gael cymorthdaliadau ar hyn o bryd, oherwydd eu maint, sy’n annheg
ac yn dangos diffyg cefnogaeth i dyfu bwyd yn lleol ac yn dymhorol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ysbrydolwyd y ddeiseb hon gan OurFood1200. Mae’n awyddus i adeiladu ffermio
sydd:
Ar raddfa fach, sy’n gynhyrchiol iawn ac yn fasnachol hyfyw.
Yn helpu i ddarparu sicrwydd bwyd yn ne Cymru.
Yn rhoi cyfle i'r rhai sy’n dlawd o ran asedau, yn enwedig ein pobl ifanc,
gael mynediad at dir a dechrau menter ffermio adfywiol.
Yn hyrwyddo cymuned drwy fasnachu lleol a chydberchnogaeth gymunedol o’n
tirwedd – “economi sylfaenol”.
Yn adfywiol: adeiladu bioamrywiaeth yn bwrpasol, gosod carbon yn y pridd,
ac osgoi cemegau niweidiol a llygredd.
Yn creu cadwyni cyflenwi lleol byr sy'n cadw elw'n lleol ac ar raddfa sy'n
agor cyfleoedd newydd i bob ffermwr lleol.
Yn darparu cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chymorth lles meddyliol i
gymunedau.
Yn annog bwyta'n iach drwy sicrhau bod ffrwythau a llysiau ffres, maethlon,
wedi'u tyfu'n lleol ar gael i bawb yn ein rhanbarth.
Yn lleihau effaith ein defnydd o fwyd a diod ar allyriadau carbon a
datgoedwigo ledled y byd.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrian De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/11/2023