P-06-1545 Rhoi'r gorau i orfodi plant ysgol i ddadwisgo o flaen staff/cyfoedion mewn ystafelloedd newid 'agored'.
P-06-1545 Rhoi'r gorau i orfodi plant ysgol i ddadwisgo o flaen staff/cyfoedion mewn ystafelloedd newid 'agored'.
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Louise Phillips, ar ôl casglu 1,281 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae plant mewn addysg uwchradd yn haeddu preifatrwydd a diogelwch, ac i
beidio â theimlo eu bod yn cael eu gorfodi i ddadwisgo o flaen eu
cyfoedion/staff mewn ystafelloedd newid cyffredin, agored ar gyfer pwnc
gorfodol (er eu bod wedi’u gwahanu yn ôl rhyw ar hyn o bryd). Mewn byd lle mae
plant yn cael eu hymgrymuso i fod yn nhw eu hunain, ac i archwilio’r cysyniadau
o rywedd, hawliau, cydraddoldeb a chynhwysiant, nid yw rhai cyfleusterau newid
ar gyfer addysg gorfforol mewn ysgolion cyfun yn cynnig fawr ddim
preifatrwydd/urddas, os o gwbl, ac mae hynny'n peri pryderon mawr o ran
diogelu.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae gan blant yr
hawl i breifatrwydd ac i fod yn ddiogel, felly ni ddylai newid mewn ystafell
newid gyffredin, agored deimlo’n orfodol. Mae gan oedolion yr hawl i ddewis ond
nid plant, oherwydd bod y cyfleusterau annigonol presennol yn cael eu rhannu
gan ddosbarthiadau mawr, ac mae hwn yn fater o ddiogelu. Mae gan bobl ifanc yr
hawl i breifatrwydd (Erthygl 16, CCUHP), felly mae’n rhaid i’r awdurdod lleol
ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl, gyda chefnogaeth y Llywodraeth.
Argymhellir
canllawiau clir ar gyfer cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel tra eu bod newid,
am resymau sy’n cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:
- mae rhai plant
yn teimlo'n agored i niwed/mae plant yn agored i niwed;
- gall achosi
pryder;
- anableddau;
- plant o wahanol
grefyddau, credoau a chefndiroedd diwylliannol, neu blant sy’n drawsryweddol,
anneuaidd neu’n cwestiynu eu hunaniaeth o ran rhywedd;
- gall staff a
gwirfoddolwyr deimlo'n ansicr ynghylch goruchwylio ystafelloedd newid a sut i
sicrhau bod pob plentyn ac oedolyn yn ddiogel; a
- bod yn sensitif
i'r unigolion hynny sy'n aeddfedu'n gorfforol yn llawer cynharach neu’n hwyrach
na'u cyfoedion.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Rhondda
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2025