Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/10/2024 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Luke Fletcher AS, a oedd yn dirprwyo ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

 

Datganodd yr Aelodau y buddiannau perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A ar gyfer deisebau sy’n cael eu hystyried:

 

Eitem 2.1 – Datganodd Peter Fox AS ei fod yn ffermwr.

 

Eitem 2.2 – Nododd yr Aelodau fod holl Aelodau'r Senedd yn cael treuliau o dan y Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau.

 

Eitem 3.1 – Mae Vaughan Gething AS yn gydymaith er anrhydedd i Gymdeithas Milfeddygon Prydain.

 

Eitem 3.1 Mae gan Carolyn Thomas AS chwaer-yng-nghyfraith sy'n gweithio i bractis milfeddygol, sydd wedi'i gymryd drosodd gan gorfforaeth.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1461 Cael gwared ar y 'Gweithredoedd Sylfaenol' a'r arddangosfeydd arfaethedig mewn taliadau o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a thynnodd sylw at y ddadl yn y Cyfarfod Llawn a oedd i'w chynnal ar adroddiadau gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. 

 

Nododd yr Aelodau y bydd cyfle i godi pryderon y deisebwyr ar lawr y Senedd yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Yn sgil y ddadl sydd i ddod, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi’r mater pwysig.

 

2.2

P-06-1473 Lleihau bil treuliau Aelodau o’r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w hanfon at y Bwrdd Taliadau Annibynnol, sy'n gyfrifol am faterion o'r fath. Wrth wneud hynny cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebwyr.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a nododd yr ohebiaeth ddiweddar a ddaeth i law oddi wrth y deisebydd, academyddion a Cats Matter.

 

At hynny, tynnodd y Cadeirydd sylw'r Aelodau at wybodaeth a gafwyd gan Unite ynghylch y sefyllfa gyda Valley Vets.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am y gwaith a wnaed ar y mater hwn, a chytunwyd i gadw golwg ar y ddeiseb hyd nes y daw ymchwiliad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i ben. Disgwylir i’r ymchwiliad ddod i ben ym mis Mai.

 

At hynny, nododd y Pwyllgor gais y deisebydd i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ystyried ymchwiliad i’r mater o fewn ei flaenraglen waith, a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor i drosglwyddo’r cais.

 

3.2

P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a nododd fod Bil Senedd Cymru (Rhestr o Ymgeiswyr Etholiadol) wedi’i dynnu’n ôl ers ystyried y ddeiseb ddiwethaf, ac mae’n annhebygol y bydd unrhyw ddeddfwriaeth bellach yn dod i law cyn etholiad nesaf y Senedd.

 

Cytunodd yr Aelodau y byddai cynyddu cynrychioldeb y Senedd, bellach yn fater i bleidiau gwleidyddol wrth iddynt ddewis ymgeiswyr, a’r etholwyr ar y cyfnod pleidleisio. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.  

 

3.3

P-06-1374 Dylai tirfeddiannwyr Cymru – yn yr un modd â Lloegr – allu caniatáu 60 diwrnod y flwyddyn o wersylla mewn pebyll a faniau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Peter Fox MS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n garafánwr ac yn aelod o glybiau carafanau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymgynghoriad sydd ar ddod gan Lywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd er mwyn annog y deisebydd i ymateb iddi pan fydd yn cael ei lansio.

 

Wrth wneud hynny cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

3.4

P-06-1433 Rhaid atal y gwaharddiad ar GB News yn y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i'r Llywydd am ymateb cynhwysfawr i'r ddeiseb.

 

Nododd yr Aelodau fod gan Gomisiwn y Senedd, bellach, bolisi tryloyw sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n ymdrin â pha sianeli sydd wedi’u cynnwys ar y system deledu fewnol. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.5

P-06-1442 Ehangu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, llongyfarchodd y myfyrwyr am eu hymgyrch #nohungrylearners a diolchodd iddynt am roi o'u hamser i gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor.

 

Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb, ond wrth wneud hynny byddent yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i rannu tystiolaeth y deisebydd.

 

3.6

P-06-1455 Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb eto, yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Medi.

 

Cytunodd yr Aelodau, gan y byddai’r materion yn cael eu datblygu gan Bwyllgorau eraill y Senedd, y dylid cau’r ddeiseb yn awr.

 

Wrth wneud hynny, diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd a chytunwyd i rannu eu gohebiaeth ddiweddaraf â'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

 

3.7

P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â phedair deiseb arall yn ymwneud â diwygio ADY, a chymorth a chyllid ar gyfer darpariaeth ADY. Nododd yr Aelodau fod y Gweinidog eisoes yn gweithio gydag ymgyrchwyr i fynd i’r afael â phryderon, a’r gwaith parhaus yn y maes hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y disgwylir iddo adrodd eto erbyn diwedd y Senedd. At hynny, mae yna ddadleuon ar ddod yn y Senedd, a fydd yn mynd i’r afael â’r mater. Cytunwyd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

3.8

P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu’r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â phedair deiseb arall yn ymwneud â diwygio ADY, a chymorth a chyllid ar gyfer darpariaeth ADY. Nododd yr Aelodau fod y Gweinidog eisoes yn gweithio gydag ymgyrchwyr i fynd i’r afael â phryderon, a’r gwaith parhaus yn y maes hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y disgwylir iddo adrodd eto erbyn diwedd y Senedd. At hynny, mae yna ddadleuon ar ddod yn y Senedd, a fydd yn mynd i’r afael â’r mater. Cytunwyd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

3.9

P-06-1342 Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â phedair deiseb arall yn ymwneud â diwygio ADY, a chymorth a chyllid ar gyfer darpariaeth ADY. Nododd yr Aelodau fod y Gweinidog eisoes yn gweithio gydag ymgyrchwyr i fynd i’r afael â phryderon, a’r gwaith parhaus yn y maes hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y disgwylir iddo adrodd eto erbyn diwedd y Senedd. At hynny, mae yna ddadleuon ar ddod yn y Senedd, a fydd yn mynd i’r afael â’r mater. Cytunwyd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

 

3.10

P-06-1347 Adolygu polisïau anghenion dysgu ychwanegol a’i gwneud yn orfodol i hyfforddi pob athro a chynorthwyydd addysgu mewn technegau rheoleiddio YN LLAWN

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â phedair deiseb arall yn ymwneud â diwygio ADY, a chymorth a chyllid ar gyfer darpariaeth ADY. Nododd yr Aelodau fod y Gweinidog eisoes yn gweithio i fynd i’r afael â phryderon, a’r gwaith parhaus ar ADY gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y disgwylir iddo adrodd eto erbyn diwedd y Senedd. At hynny, mae yna ddadleuon ar ddod yn y Senedd, a fydd yn mynd i’r afael â’r mater. Cytunwyd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

3.11

P-06-1406 Cosbau ariannol i Awdurdodau Addysg Lleol nad ydynt yn cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â phedair deiseb arall yn ymwneud â diwygio ADY, a chymorth a chyllid ar gyfer darpariaeth ADY. Nododd yr Aelodau fod y Gweinidog wedi derbyn bod anghysondebau rhwng awdurdodau lleol, ond nad yw dirwyon yn cael eu hystyried. Nododd yr Aelodau'r gwaith parhaus ar ADY gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y disgwylir iddo adrodd eto erbyn diwedd y Senedd. At hynny, mae yna ddadleuon ar ddod yn y Senedd, a fydd yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag ADY. Cytunwyd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

3.12

P-06-1474 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr aelodau'r ohebiaeth oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

3.13

P-05-1447 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr aelodau'r ohebiaeth oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried papur cwmpasu ar gyfer casglu tystiolaeth ar y ddeiseb: Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol).