P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu'r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol
P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu'r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Zoe Beasley, ar ôl casglu cyfanswm o 347
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae tua 1,400 o blant a phobl ifanc â diabetes math 1 yng Nghymru. O ran y
plant hynny sy'n byw ag anableddau o'r fath, mae angen cymorth arnynt yn yr
ysgol i reoli eu cyflwr a sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial. Fel
mam, rwyf yn un o lawer o rieni nad yw eu plant, sydd â diabetes math 1, yn
cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn sgil diffyg dealltwriaeth o’r cyllid ar
gyfer darparu’r gofal sydd ei angen yn yr ysgol. Rydw i ac eraill wedi profi
diffyg cymorth o ran gofal, ac rwy’n ceisio newid y sefyllfa hon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Rwy'n rhwystredig ynghylch y diffyg mynediad at gefnogaeth bwrpasol; heb y
gefnogaeth hon, gall diabetes math 1 arwain at gymhlethdodau sy'n peryglu
bywydau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio plant â diabetes yn
gyfreithiol fel pobl sy'n byw ag anabledd. Rhaid i sefydliadau addysg fel
ysgolion sicrhau nad yw disgyblion sy'n byw gyda diabetes yn dioddef anfantais.
Ni waeth pa mor hyderus yw’r plentyn dan sylw, nid yw plant yn gallu cael
eu hyfforddi ar y defnydd o bwmp inswlin tan eu bod yn 11 oed. Felly, gan fod
plant yn cael diagnosis o’r adeg y cânt eu geni, mae’r cymorth a ddarperir
rhwng yr ysgol feithrin a’r ysgol gynradd yn fwy hanfodol fyth o ran rheoli
diabetes.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn
gam i’w groesawu. Fodd bynnag, dim ond nawr y mae'r Ddeddf honno’n cael ei rhoi
ar waith. Mae'r ddeddfwriaeth newydd wedi cyflwyno mesur statudol, sef
Cynlluniau Datblygu Unigol, at ddibenion cefnogi myfyrwyr drwy ddatblygu
fframwaith cefnogol er mwyn sicrhau bod eu hanghenion academaidd, corfforol a
chymorth yn cael eu diwallu.
Rwy'n gofyn i'n Llywodraeth adolygu'r canllawiau presennol ar gyfer y
ddeddfwriaeth ADY newydd er mwyn cynyddu cyfranogiad ysgolion/Awdurdodau Lleol
drwy greu canllawiau a chymorth ar ffurf hygyrch sy'n lleihau unrhyw rwystrau o
ran mynediad.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2023