P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Victoria Anne Lightbown, ar ôl casglu 15,160 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:        

Er gwaethaf y ffaith mai ychydig flynyddoedd yn unig yw hi ers i’r newidiadau gael eu cyflwyno, ac er gwaethaf yr addewidion o gymorth cynharach a gwell i blant a phobl ifanc ag ADY, mae mwy a mwy o ddisgyblion ADY yng Nghymru’n cael eu methu. Mae problemau hefyd o ran cysondeb ac atebolrwydd.

 

Mae ffocws mawr o hyd ar Ddarpariaethau Cyffredinol yn hytrach na dull cyfannol Cynlluniau Datblygu Unigol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer disgyblion ADY. Dylai disgyblion ag anableddau iechyd meddwl / corfforol gael mynediad cyfartal at gymorth ac addysg o safon.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Gwrthodir cymorth i blant dan 5 oed ar sail y 'rhagdybiaeth' y byddant yn 'dal i fyny' erbyn iddynt gyrraedd oedran ysgol statudol. Pan gaiff Cynlluniau Datblygu Unigol eu llunio, mae ysgolion yn gallu dehongli yr hyn sydd ei angen heb atebolrwydd digonol na chysylltiad â therapyddion iechyd arbenigol am arweiniad. Galwn am barchu hawliau o dan Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anabledd gdrwy sicrhau:

 

  • Cod ymarfer cyffredinol i ddarparu addysg gynhwysol o safon i bob disgybl ADY.
  • Lleoliadau addysgol sy'n cynnig darpariaethau ag adnoddau priodol a staff hyfforddedig sy'n cyrraedd safon addysg gyda sicrwydd ansawdd i wneud y system yn deg ac yn ddibynadwy ac i’w galluogi i ateb y galw cynyddol.
  • Mae angen i addysg ac iechyd weithio'n agosach gyda'i gilydd.
  • Hyfforddiant arbenigol gorfodol a chymorth i athrawon a’u staff.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·       Gorllewin Clwyd

·       Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2024