P-06-1461 Cael gwared ar y 'Gweithredoedd Sylfaenol' a’r gostyngiadau arfaethedig mewn taliadau o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
P-06-1461 Cael gwared ar y 'Gweithredoedd Sylfaenol' a’r gostyngiadau arfaethedig mewn taliadau o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Jethro Small, ar ôl casglu 15,970 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Bydd y cynnig i’w
gwneud yn ‘ofynnol plannu 10% o orchudd coed a throi 10% o dir cynhyrchiol yn
dir cynefin yn arwain at ostyngiad amlwg o 20% a mwy yn y bwyd sy’n cael ei
gynhyrchu yng Nghymru, colli swyddi a throsiant cyffredinol o fusnesau, a hynny
mewn diwydiant sydd eisoes mewn cyni. Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith enfawr
ar fusnesau gwledig, ar gymunedau, ac ar safonau byw cyffredinol teuluoedd.
Bydd pob
gweithred sylfaenol yn golygu cynnydd o ran llafur/gwaith papur a chostau i
alwedigaeth sydd eisoes dan straen, ond ni fydd taliadau uwch i gyd-fynd â hyn.
Anymarferol!
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Yn ôl
amcanestyniadau’r Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol:
>>>>
>>>Bydd
gostyngiad o 10.8%, neu 122,200, yn nifer yr unedau da byw,
>>>Caiff
11%, neu dros 5,500, o swyddi eu colli,
>>>Bydd
allbwn o’r sector yn dioddef ergyd gwerth £125.3 miliwn.
>>>Bydd
busnesau fferm yn colli £199 miliwn o’u hincwm.
<<<
Nid yw'n gwneud
nemor ddim ar gyfer diogelwch bwyd y wlad, na dyfodol y diwydiant amaethyddol.
Mae llawer iawn o
waith amgylcheddol da wedi cael ei wneud gan ffermwyr o dan gynlluniau
blaenorol, ond mae hyn mewn perygl o gael ei golli neu ei wrthwneud, a hynny
oherwydd y ffaith seml y bydd ymuno â'r cynllun hwn yn arwain at ostyngiad
ariannol ar adeg o gynnydd mewn costau mewnbynnau a threuliau.
Os na chaiff ei
newid, bydd y cynllun yn achosi i lawer o ffermydd gau, yn enwedig ffermydd
newydd a ffermydd â thenantiaid.
Mae llawer o'r
gweithredoedd sylfaenol yn cyfeirio at y targedau 'Sero Net', ond am ba gost?
Nid yw gwlad sy’n
methu â chynhyrchu ei bwyd ei hun yn 'gynaliadwy'! Nid yw'r cynllun hwn yn
gynaliadwy!
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 14/10/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/10/2024.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
§
Brycheiniog
a Sir Faesyfed
§
Canolbarth
a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/08/2024