P-06-1473 Lleihau bil treuliau Aelodau o’r Senedd

P-06-1473 Lleihau bil treuliau Aelodau o’r Senedd

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martyn Evans, ar ôl casglu 368 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

O ystyried y sefyllfa ariannol bresennol y mae pob teulu yng Nghymru yn ei hwynebu, gan mai swydd yw bod yn Aelod o’r Senedd, rwy’n cynnig na ddylai’r treuliau y mae Aelodau o’r Senedd yn eu hawlio gynnwys costau y mae pob aelwyd arall yng Nghymru yn eu hysgwyddo, felly dim talu biliau cyfleustodau, y dreth gyngor, rhent na chostau gwella’r cartref mwyach. Ni ddylid talu mwy na gwerth cyfatebol cost trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer treuliau teithio, a chyfraddau Travelodge y dylid eu talu ar gyfer unrhyw arhosiad mewn gwesty.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Byddai rhoi cap ar dreuliau yn y modd hwn yn gwneud i Aelodau’r Senedd weld beth mae pawb arall yn mynd drwyddo a’u gwneud yn llai parod i flaenoriaethu prosiectau porthi balchder a rhoddion i grwpiau lobïo sy’n honni bod yn elusennau, a byddai’n rhoi iddynt syniad o sut mae’r byd go iawn yn gweithio.

 

Byddai hefyd yn lleihau’r bil ar gyfer y 36 Aelod ychwanegol y mae’r Senedd am eu cael (yn wahanol i’r cyhoedd), a byddai’n golygu bod arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau sydd eu hangen ar y wlad hon.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 14/10/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/10/2024. 

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

>>>> 

>>>Aberafan

>>>Gorllewin De Cymru

<<< 

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/10/2024