P-06-1455 Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau

P-06-1455 Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rebecca Totterdell, ar ôl casglu 10,560 lofnodion.

 

Geiriad y Ddeiseb:

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi darparu rhaglen gerddoriaeth ac actio i fyfyrwyr iau rhwng 4 a 18 oed ers 25 mlynedd. Ar hyn o bryd mae tua 300 o bobl ifanc dalentog yn mynd drwy ei ddrysau bob penwythnos, ac mae llawer ohonynt ar fwrsari. Dyma’r unig ddarpariaeth o’i math yng Nghymru.

 

Oherwydd trafferthion ariannol mae’r Coleg yn gorfod ymgynghori ynghylch cau’r rhaglenni actio a cherddoriaeth i bobl ifanc ar ddiwedd y tymor hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Os bydd y rhaglenni’n cau, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fydd yr unig Ysgol Cerddoriaeth Frehninol heb adran i fyfyrwyr iau.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 14/10/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 22/04/2024. 

 

Close-up of a harp with a book

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

>>>> 

>>>Gogledd Caerdydd

>>>Canol De Cymru

<<< 

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/09/2024

Dogfennau