Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/09/2023 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon, a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Jenny Rathbone AS ddatganiad o fuddiant perthnasol.

(09.30-10.30)

2.

Bil Seilwaith (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Lisa Phillips, Uwch-gynghorwr Arbenigol, Tîm Dulliau Rheoleiddio Dŵr, Tir, Bioamrywiaeth a'r Môr  – Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhian Jardine, Pennaeth Cynllunio Datblygu a Gwasanaethau Morol  – Cyfoeth Naturiol Cymru

Dr David Clubb – Cadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Steve Brooks – Aelod o’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru.

(10.40-11.40)

3.

Bil Seilwaith (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth gyda grwpiau cymunedol a’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru

James Davies, Prif Weithredwr – Cymorth Cynllunio Cymru

Dr Roisin Willmott, Cyfarwyddwr – Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Cymorth Cynllunio Cymru a’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru.

(11.40)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

4.1

Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23

Dogfennau ategol:

4.2

Trafnidiaeth Cymru - Caffael Cerbydau Rheilffyrdd

Dogfennau ategol:

4.3

Amserlen y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25

Dogfennau ategol:

4.4

Craffu blynyddol ar weithrediad camau interim ar gyfer diogelu'r amgylchedd

Dogfennau ategol:

4.5

Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Dogfennau ategol:

4.6

Gwasanaethau bysiau

Dogfennau ategol:

4.7

Safle glo brig Ffos-y-Fran

Dogfennau ategol:

4.8

Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

4.9

Datganiad Deddfwriaethol - Llywodraethu amgylcheddol

Dogfennau ategol:

4.10

Claddu Ceblau Trawsyrru Trydan

Dogfennau ategol:

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

6.

Bil Seilwaith (Cymru) – Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 ac eitem 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.

7.

Trafod y Memorandwm (4) Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio cyfreithiol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio.

8.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.

9.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - Trefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â thrafodion Cyfnod 2.

9.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, cytunodd y Pwyllgor i amrywio trefn y broses ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), ac i ystyried adrannau’r Bil yn y drefn a ganlyn:

· Ystyrir Atodlen 1 yn syth ar ôl Adran 18; ac

· Atodlen 2 ar ôl Adran 20