Adfer safleoedd glo brig

Adfer safleoedd glo brig

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (‘y Pwyllgor’) wedi cytuno i wneud darn byr o waith i edrych ar y gwaith o adfer hen safleoedd glo brig yn ne Cymru.

 

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar y canlynol:

- y trefniadau ariannol ac ymarferol ar gyfer adfer safle glo brig Ffos-y-fran;

- sut mae modd adfer safleoedd glo brig, a’r cynlluniau wrth gefn os na fydd digon o arian ar gael; a’r

- canfyddiadau a’r argymhellion o adroddiad Llywodraeth Cymru ynghylch Ymchwil i’r methiant i adfer safleoedd glo brig yn ne Cymru (Ebrill 2014) ac a yw’r rhain yn berthnasol o hyd.

 

Ein dull gweithredu

Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiynau tystiolaeth ar 24 Ebrill a 9 Mai 2024 gyda chynrychiolwyr yr Awdurdod Glo, cyrff amgylcheddol, a grwpiau trigolion lleol.

 

Gohebiaethau

§  Ymateb gan Gweinidog Newid Hinsawdd at y gan y Cadeirydd mewn perthynas â gwaith glo brig Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful (PDF 201 KB) - 15 Mawrth 2024

§  Llythyr dilynol gan y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â safle glo brig Ffos-y-Fran (PDF 78 KB) - 8 Mawrth 2024

§  Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â safle glo brig Ffos-y-Fran (PDF 88 KB) - 11 Ionawr 2024

§  Cyngor gweinidogol mewn perthynas â gwaith glo brig Ffos-y-Fran, rhannu gan Coal Action Network (Saesneg yn unig) (PDF 164 KB) - 28 Gorffennaf 2023

§  Llythyr gan yr Awdurdod Glo at Lywodraeth Cymru ynghylch gwaith glo brig Ffos-y-Fran (Saesneg yn unig) (PDF 146 KB) - 20 Hydref 2023

§  Llythyr gan y Rhwydwaith Gweithredu Glo at y Cadeirydd ynghylch gwaith glo brig Ffos-y-Fran (Saesneg yn unig) (PDF 138 KB) - 4 Rhagfyr 2023

§  Gohebiaeth gan Helen Morgan AS at y Pwyllgor Newid Hinsawdd mewn perthynas â glofa glo brig Ffos-y-Fran (Saesneg yn unig) (PDF 737 KB) - 18 Medi 2023

§  Ymateb gan Gweinidog Newid Hinsawdd at y gan y Cadeirydd mewn perthynas â gwaith glo brig Ffos-y-Fran (PDF 200 KB) - 15 Medi 2023

§  Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â gwaith glo brig Ffos-y-Fran (PDF 105 KB) - 24 Gorffennaf 2023

§  Barn gyfreithiol wedi’i chomisiynu a’i rhannu gan Coal Action Network (Saesneg yn unig) (PDF 197 KB) – 23 Mehefin 2023

§  Llythyr gan y Rhwydwaith Gweithredu Glo at y Cadeirydd ynghylch gwaith glo brig Ffos-y-Fran (Saesneg yn unig) PDF 622 KB – 11 May 2023

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/05/2023

Dogfennau