Llywodraethu amgylcheddol

Llywodraethu amgylcheddol

Yn ystod y Chweched Senedd bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn ystyried materion llywodraethu  ac egwyddorion amgylcheddol.

 

Gohebiaeth

 

Ar 1 Gorffennaf 2022, cyn datganiad deddfwriaethol arfaethedig y Prif Weinidog, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Prif Weinidog (PDF 210KB) ynghylch Bil llywodraethu amgylcheddol. Ymatebodd y Prif Weinidog (PDF 151KB) ar 18 Gorffennaf 2022.

 

Llythyr agored gan sefydliadau amgylcheddol at y Prif Weinidog mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder amgylcheddol (PDF 310KB) – Mehefin 2022.

 

Ar 21 Ebrill 2022, ysgrifennodd y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd (PDF 119KB) ynghylch gwaith Llywodraeth Cymru ar fioamrywiaeth; llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol, a Pholisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Ymatebodd y Gweinidog (PDF 343KB) ar 25 Mai 2022.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/12/2022

Papurau cefndir