Cymru Sero Net
Ar 28 Hydref 2021, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ei Chynllun 'Cymru
Sero Net' ('y Cynllun'). Hwn yw ail gynllun
datgarboneiddio statudol Llywodraeth Cymru ac mae’n canolbwyntio ar ei hail
gyllideb carbon (2021 – 2025). Mae’n adeiladu ar Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, a gyhoeddwyd yn 2019.
Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith ('y Pwyllgor') yn cynnal sesiwn graffu ar y Cynllun
gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei gyfarfod ddydd Iau 25 Tachwedd 2021. Bydd
y sesiwn hon yn cael ei defnyddio i helpu i lywio blaenoriaethau’r Pwyllgor ar
gyfer tymor y Senedd hon, a pharatoi'r ffordd ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar
newid hinsawdd a lleihau allyriadau carbon.
Er mwyn llywio’r sesiwn
graffu gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd, fe wnaeth y Pwyllgor wahodd
rhanddeiliaid i gynnig eu safbwyntiau
cychwynnol ar y Cynllun (ymatebion i'w cyhoeddi).
Ar 11 Tachwedd 2021, ysgrifennodd y
Gweinidog at y Pwyllgor i amlinellu manylion pellach ynghylch y Cynllun.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2021
Dogfennau
- Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021 i 25)
PDF 13 MB
- Cymru Sero Net - dogfen crynodeb
PDF 3 MB
- Crynodeb ffeithlun
PDF 1 MB
- Cymru Sero Net - arfarniad o gynaliadwyedd
PDF 3 MB
- Cymru Sero Net - arfarniad o gynaliadwyedd crynodeb annhechnegol
PDF 804 KB
- Gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd sero net - cynllun Cymru gyfan
PDF 2 MB
Ymgynghoriadau
- Cymru Sero Net (Wedi ei gyflawni)