Mesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro
Yn ystod y
Chweched Senedd, bydd y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn gwneud gwaith mewn
perthynas â llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol.
Mesurau
llywodraethu amgylcheddol dros dro
Wrth bennu ei
flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor i graffu ar
fesurau llywodraethu amgylcheddol dros dro Llywodraeth Cymru drwy gynnal sesiwn
untro gyda'r Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru (“yr Asesydd”), ar ôl i
adroddiad blynyddol yr Asesydd gael ei gyhoeddi.
Mesurau
llywodraethu amgylcheddol dros dro – 2022-2023
Adroddiad: Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar
weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd 2022-23 (PDF 215KB ) ar
21 Medi 2023.
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru (PDF 294KB) ar 6 Tachwedd 2023. Ymatebodd
Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (PDF 134KB) (Saesneg yn unig) ar 30
Hydref 2023.
Casglu
tystiolaeth
Cyhoeddwyd Adroddiad
Blynyddol 2022-2023 Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru ar 16
Mehefin 2023.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiwn graffu gydag Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru yn ei
gyfarfod ar 21
Mehefin 2023.
Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth hefyd gan gynrychiolwyr o Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd a Safonau
Amgylcheddol yr Alban. Ceir mwy o wybodaeth am y sesiynau tystiolaeth o dan y
tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.
Mesurau
llywodraethu amgylcheddol dros dro – 2021-2022
Adroddiad: Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar
weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd (PDF 157KB ) ar 28 Medi
2022.
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru (PDF 228KB) ar 14 Tachwedd 2022. Ymatebodd
Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (PDF 134KBKB) (Saesneg yn unig)
ar 9 Tachwedd 2022.
Dadl y
Cyfarfod Llawn: Cynhaliwyd
dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7
Rhagfyr 2022.
Casglu
tystiolaeth
Cafodd yr Adroddiad
Blynyddol 2021/2022 ei gyhoeddi ar 1 Mehefin 2022.
Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda’r Asesydd
yn ei gyfarfod ar 30
Mehefin 2022.
Clywodd y
Pwyllgor tystiolaeth hefyd gan banel o arbenigwyr o'r sector amgylcheddol i
gasglu eu safbwyntiau ar weithrediad y Mesurau Llywodraethu Amgylcheddol Dros
Dro yng Nghymru ar 30
Mehefin 2022.
Dadl y Cyfarfod Llawn: Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7
Rhagfyr 2022.
Gohebiaeth
Ar 1 Gorffennaf 2022,
cyn datganiad deddfwriaethol arfaethedig y Prif Weinidog, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Prif Weinidog ynghylch Bil llywodraethu amgylcheddol (PDF
210KB). Ymatebodd
y Prif Weinidog (PDF 151KB) ar 18 Gorffennaf 2022.
Ar 21 Ebrill
2022, ysgrifennodd
(PDF 119KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch gwaith
Llywodraeth Cymru ar fioamrywiaeth; llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol, a
Pholisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Ymatebodd
(PDF 343KB) y Gweinidog ar 25 Mai 2022.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/04/2022
Dogfennau
- Llythyr gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd: Bil Llywodraethu Amgylcheddol - 18 Gorffennaf 2022
PDF 141 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Prif Weinidog: Bil Llywodraethu Amgylcheddol - 1 Gorffennaf 2022
PDF 210 KB Gweld fel HTML (2) 38 KB
- Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 21 Ebrill - 25 Mai
PDF 343 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Mark Roberts, Prif Swyddog Gweithredol, Environmental Standards Scotland (ESS) - 5 Gorffennaf 2023 (Saesneg yn unig)
PDF 78 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Fonesig Glenys Stacey, Cadeirydd, a Natalie Prosser, Prif Swyddog Gweithredol, Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd – 5 Gorffennaf 2023 (Saesneg yn unig)
PDF 77 KB
- Ymateb gan Mark Roberts, Prif Swyddog Gweithredol, Environmental Standards Scotland (ESS) at y Cadeirydd - 7 Gorffennaf 2023 (Saesneg yn unig)
PDF 154 KB
- Ymateb gan Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd at y Cadeirydd - 28 Gorffennaf 2023 (Saesneg yn unig)
PDF 111 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd - 8 Mehefin 2023
PDF 210 KB
- Ymateb gan Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar weithrediad y mesurau interim diogelu’r amgylchedd - 30 Hydref (Saesneg yn unig)
PDF 134 KB
- Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r Cadeirydd mewn perthynas ag adroddiad y Pwyllgor ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd - 6 Tachwedd
PDF 294 KB