Craffu ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru

Craffu ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru

Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn gwneud gwaith craffu o bryd i’w gilydd ar Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystod y Chweched Senedd.

 

Craffu Blynyddol ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru – 2023-24

Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn graffu flynyddol ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Iau 18 Ionawr 2024.

 

Craffu Blynyddol ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru – 2022-23

Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn graffu flynyddol ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Iau 9 Chwefror 2023.

Adroddiad: Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru - Gwaith Craffu Blynyddol 2022-23 (PDF 259KB) ar 19 Mai 2023.

Ymateb: Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 3 Gorffennaf 2023.

Ymateb: Ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 13 Gorffennaf 2023.

 

 

Craffu Blynyddol ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru – 2020-21/22

Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn graffu flynyddol gyntaf ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Iau 20 Ionawr 2022. Roedd y sesiwn graffu hon yn cwmpasu'r cyfnod 2020-21.

Adroddiad: Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru ar 23 Mawrth 2022.

Ymateb: Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 10 Mai 2022.

Dadl Y Cyfarfod Llawn: Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mehefin 2022.

 

Cefndir

Sefydlwyd CNC ar 1 Ebrill 2013 pan gyfunwyd cyfrifoldebau, asedau a staff Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Yn ogystal â'i amrywiol gyfrifoldebau gweithredol a rheoleiddiol, CNC yw’r prif gorff sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch materion yn ymwneud ag adnoddau naturiol. Mae rhagor o wybodaeth am CNC, gan gynnwys manylion am ei gylch gwaith ar gael ar ei wefan.

 

Mae CNC, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn atebol i Weinidogion Cymru ac mae Pwyllgorau perthnasol y Senedd yn craffu ar ei waith.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2022

Dogfennau