Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru

Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru

Inquiry4

 

Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn gwneud gwaith craffu o bryd i’w gilydd ar waith Trafnidiaeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd.

 

Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru 2024-25

Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn graffu flynyddol ail ar waith Trafnidiaeth Cymru yn ei gyfarfod ar dydd Iau 23 Ionawr 2025. Cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru dystiolaeth ysgrifenedig i helpu i lywio’r sesiwn graffu.

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25 (PDF 305KB), ar 9 Ebrill 2025.

Ymatebodd Trafnidiaeth Cymru i adroddiad (PDF 276KB) (Saesneg yn unig) y Pwyllgor ar 3 Mehefin 2025.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad (PDF 85KB) y Pwyllgor ar 3 Mehefin 2025.

 

Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru 2023-24

Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn graffu flynyddol ail ar waith Trafnidiaeth Cymru yn ei gyfarfod ar ddydd Mercher 22 Tachwedd 2023. Cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru dystiolaeth ysgrifenedig i helpu i lywio’r sesiwn graffu a gwybodaeth ychwanegol ar 5 Mawrth 2024.

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24 (PDF 264KB), ar 3 Mai 2024.

Ymatebodd Trafnidiaeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 22 Mai (PDF 172KB)  a 17 Mehefin (PDF 274KB)  2024.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF 137KB) i adroddiad y Pwyllgor ar 19 Mehefin 2024.

 

Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru - 2022

Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn graffu flynyddol gyntaf ar waith Trafnidiaeth Cymru yn ei gyfarfod ar ddydd Iau 17 Mawrth 2022. Bu’r sesiwn hon yn ymdrin â'r canlynol:

 

·         Craffu cyffredinol ar lywodraethu a datblygiad Trafnidiaeth Cymru; a

·         Thystiolaeth gan Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwaith y Pwyllgor ar adfer trafnidiaeth gyhoeddus ar ôl covid.

 

Cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru dystiolaeth ysgrifenedig i helpu i lywio’r sesiwn graffu.

 

Adroddiad:

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru (PDF 3.4MB) ar 6 Hydref 2022. Mae'r adroddiad mewn dwy ran:

Rhan 1 – Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru

Rhan 2 – Dyfodol gwasanaethau bysiau a threnau ar ôl Covid

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF 234KB) i adroddiad y Pwyllgor ar 16 Rhagfyr 2022.

 

Math o fusnes: Arall

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2022

Dogfennau