Teithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru

Teithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru

Inquiry5

 

Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) i gynnal ymchwiliad i deithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru.

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>Blaenoriaethau ar gyfer adferiad bysiau a threnau Cymru ar ôl Covid;

>>>Y camau sydd eu hangen i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer newid i’r dulliau hyn o deithio a newid ymddygiad; a

>>>Safbwyntiau ar gynigion i ddiwygio bysiau a’r rheilffyrdd – gan gynnwys cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio’r diwydiant rheilffyrdd, a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau bysiau / y Papur Gwyn ar Fysiau.

<<< 

Casglu tystiolaeth

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid ddydd Iau 26 Mai 2022.

 

Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfres o bum grŵp ffocws a chwe chyfweliad unigol rhwng 21 Mawrth a 21 Ebrill ac mae'r papur (PDF 234 KB) hwn yn crynhoi canfyddiadau'r cyfweliadau hynny.

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru (PDF 3.4MB) ar 6 Hydref 2022. Mae'r adroddiad mewn dwy ran:

Rhan 1 – Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru

Rhan 2 – Dyfodol gwasanaethau bysiau a threnau ar ôl Covid

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF 234KB) i adroddiad y Pwyllgor ar 16 Rhagfyr 2022.

 

Dadl Y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Ionawr 2023.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/05/2022

Ymgynghoriadau