Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y
cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. Cafwyd ymddiheuriadau gan Altaf Hussain. Dirprwyodd Tom Giffard ar ei ran. |
|
(13:30-14:30) |
Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Sesiwn dystiolaeth 3 Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Dr Donal Brown, New Economics Foundation Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn: Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Dr Donal Brown, New Economics Foundation |
|
(14:45 -16:00) |
Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Sesiwn dystiolaeth 4 Ben Saltmarsh,
National Energy Action Jack
Wilkinson-Dicks, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn: Ben Saltmarsh, National Energy Action Jack Wilkinson-Dix, Ymddiriedolaeth Arbed Ynni |
|
(16:00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r ohebiaeth. Mewn perthynas ag Eitem 4.1, cytunodd yr Aelodau mewn
sesiwn breifat y byddai'r Pwyllgor yn ysgrifennu at Sparkle a derbyn eu
gwahoddiad i ymweld â'r ganolfan. |
|
Gohebiaeth gan Sparkle: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar ofal plant a chyflogaeth rhieni Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Amcangyfrif Cyllideb Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2022-23 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cyllideb Ddrafft 2022-23 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Jane Dodds: Cynllun gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – Hawliau cymunedol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rôl byrddau iechyd o ran diogelu menywod a phlant a allai fod yn dioddef cam-drin domestig Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Cyllideb ddrafft 2022-23 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Recriwtio gyrwyr cerbydau nwyddau trwm Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Ymateb i argymhellion y Pwyllgor ynghylch Cyllideb Ddrafft 2022-2023 Dogfennau ategol: |
||
(16:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(iv) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16:10-16:25) |
Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Nwy
Prydain, a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i ofyn am ragor o wybodaeth mewn
perthynas â'r ymchwiliad. |
|
(16:25-16:45) |
Y flaenraglen waith: trafod papurau cwmpasu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau’r flaenraglen waith a’r papurau
cwmpasu |
|
(16:45-17:00) |
Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998: y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am
ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998. |