Gwarchod y dyfodol - Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio

Gwarchod y dyfodol - Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio

Cefndir

 

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i ofal plant a chyflogaeth rhieni: y pandemig a thu hwnt. Mae pandemig COVID-19 wedi dod â materion yn ymwneud â chydraddoldeb o ran rhywedd, gofal plant a chyflogaeth i'r amlwg. Bydd yr ymchwiliad yn ceisio mynd i’r afael â'r materion hyn drwy ganolbwyntio ar sut y gall y ddarpariaeth gofal plant greu rhwystrau i rieni, yn enwedig menywod, sy’n ymuno â’r farchnad lafur neu’n symud ymlaen yn eu swyddi.

 

Cylch gorchwyl

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw ystyried:

 

  • I ba raddau y mae'r ddarpariaeth gofal plant bresennol yng Nghymru yn cefnogi rhieni’n ddigonol, yn enwedig mamau, i gael swydd, aros yn y swydd a symud ymlaen yn y swydd, a pha newidiadau y gallai fod eu hangen i wella effeithiolrwydd y ddarpariaeth gofal plant wrth wneud hyn.
  • Pa effaith y mae’r Cynnig Gofal Plant wedi’i chael o ran cyflawni nod Llywodraeth Cymru o "helpu rhieni, mamau yn arbennig, i ddychwelyd i'r gwaith neu i gynyddu'r oriau y maent yn eu gweithio"
  • Effaith diffyg argaeledd gofal plant ar lefelau cynhyrchiant Cymru.
  • Sut mae trefniadau gofal plant wedi effeithio ar gyflogaeth rhieni yn ystod pandemig y coronafeirws, yn enwedig mamau?  Pa wersi y gellir eu cymhwyso i roi cefnogaeth well yn ystod unrhyw gyfnodau clo yn y dyfodol neu gyfyngiadau pellach.
  • P'un a yw'r ddarpariaeth gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ddigon hyblyg i gefnogi cyflogaeth rhieni, yn enwedig mamau, mewn gwahanol grwpiau demograffig ac o dan wahanol amgylchiadau.
  • Effaith darpariaeth gofal plant ffurfiol o safon uchel ar leihau'r bwlch cyrhaeddiad, a manteision posibl ymestyn darpariaeth gofal plant i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
  • Yr hyn y gall Cymru ei ddysgu o fodelau eraill o ddarpariaeth gofal plant sydd ar waith yng ngweddill y DU ac yn rhyngwladol ac arferion sy’n dod i’r amlwg o ran cefnogi cyflogaeth rhieni, ac i ba raddau y gellir trosglwyddo’r modelau hyn i gyd-destun Cymru.
  •  Sut y byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried goblygiadau ariannol ac ymarferol fel argaeledd gofal plant wrth ddatblygu unrhyw bolisi yn y dyfodol i ymestyn y ddarpariaeth gofal plant.

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ddydd Gwener 28 Ionawr 2022. Ar ôl ei gyhoeddi, dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Gwyddom fod gwell darpariaeth gofal plant yn gyfystyr â chyfleoedd gwell i sicrhau cydraddoldeb yn y gweithle.

“Fodd bynnag, nid yw’r system gyfredol yn ei gwneud hi’n hawdd; mae rhieni'n gorfod ymdopi â system gymhleth er mwyn hawlio cymorth gofal plant, a hynny er mwyn iddynt fod yn barod i fynd yn ôl i’r gwaith.

 

“Er gwaethaf bwriadau gorau Llywodraeth Cymru, mae'n amlwg bod llawer o rieni a ddylai fod yn gymwys i hawlio cymorth yn llithro drwy’r craciau. Mae angen i’r Llywodraeth edrych ar ein hargymhellion ar fyrder a blaenoriaethu'r broses o lenwi'r bylchau yn y system.”

 

Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 23 Mawrth.

 

Bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Mawrth.

 

Mae’r Pwyllgor yn edrych eto ar y maes gwaith hwn gyda’i ymchwiliad dilynol i ofal plant, a ddechreuodd yn Ionawr 2024.

 

 

A person and a child using a computer

Description automatically generated with low confidence

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/10/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau