Gofal plant - ymchwiliad dilynol

Gofal plant - ymchwiliad dilynol

 

Inquiry2

 

Cefndir

 

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud gwaith dilynol ar ei ymchwiliad i ofal plant a chyflogaeth rhieni, a gwblhawyd ym mis Ionawr 2022.

 

Mae’r Pwyllgor yn ailedrych ar y mater hwn i weld pa gynnydd sydd wedi bod, a pha waith sydd i’w wneud o hyd, i wella darpariaeth gofal plant yng Nghymru.

 

Cylch gorchwyl

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw archwilio:

>>>> 

>>>Pa gynnydd sydd wedi bod o ran gweithredu’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor o ddechrau – Gwarchod y dyfodol – y rhwystrau gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio.

>>>I ba raddau y mae darpariaeth gofal plant yng Nghymru yn cynnig darpariaet o ansawdd uchel sy’n cefnogi datblygiad plant, yn mynd i’r afael â thlodi plant ac yn cefnogi cyflogaeth rhieni. Pa newidiadau y gallai fod eu hangen i gyflawni’r canlyniadau hyn.

>>>Pa gynnydd sy’n cael ei wneud tuag at cyflawni ymrwymiad y Cytundeb Cydweithio i ehangu 12.5 awr o ofal plant am ddim yr wythnos i bob plentyn dwy oed, gyda phwyslais ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

>>>I ba raddau y mae gofal plant digonol ar gael i ddiwallu’r anghenion amrywiol sydd gan deuluoedd ledled Cymru, a pha gamau y mae modd eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau y mae grwpiau demograffig penodol a gwahanol rannau o Gymru yn eu hwynebu o ran mynediad at ofal plant.

>>>Pa ddulliau gweithredu sy’n bodoli i integreiddio’r gwaith o ddarparu gofal plant yng Nghymru, a sut mae modd gwasgaru arfer gorau’n eang.

>>>Sut mae pwysau costau byw wedi effeithio ar ddarparwyr gofal plant a’r gweithlu, a pha effeithiau y mae hyn wedi’u cael ar y sector.

>>>Pa wersi y gellir eu dysgu o rannau eraill o’r DU ac arfer gorau rhyngwladol i wella polisi gofal plant yng Nghymru.

>>>Sut mae angen ystyried rhwystrau ariannol ac ymarferol o ran datblygu polisi gofal plant yn y dyfodol.

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

 

Bydd y Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig gan grŵp o randdeiliaid wedii dargedu. Bydd hefyd yn casglu tystiolaeth drwy sesiynau tystiolaeth llafar ffurfiol i gasglu tystiolaeth ar y cofnod a thystiolaeth anffurfiol, fel sesiynau i randdeiliaid yn y Senedd a grwpiau ffocws.

 

Mae sesiynau tystiolaeth llafar i’w cynnal ar y dyddiadau a ganlyn:

>>>> 

>>>26 Chwefror 2024

>>>29 Ebrill 2024

<<< 

 

Bydd y rhanddeiliaid y bydd y Pwyllgor yn eu gwahodd i roi tystiolaeth yn dod o’r meysydd a ganlyn:

>>>> 

>>>Sefydliadau annibynnol sy’n gweithio ar ofal plant

>>>Darparwyr gofal plant

>>>Arbenigwyr o du allan i Gymru

>>>Llywodraeth Cymru

<<< 

 

Gwaith arall

 

Ymchwiliad dilynol i’r ymchwiliad i ofal plant a chyflogaeth rhieni yw hwn. Codwyd y mater o ofal plant hefyd yn ystod gwaith y Pwyllgor ar Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Llywodraeth Cymru. I ddarllen yr adroddiad, ewch i dudalen yr ymchwiliad.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/01/2024

Papurau cefndir