Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd
Cefndir
Ym mis Hydref 2021, amcangyfrifir bod 200,000 o aelwydydd
yng Nghymru yn dlawd o ran tanwydd, gyda 153,000 arall mewn perygl o dlodi
tanwydd.
Yng ngoleuni hyn cynhaliodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad
byr i dlodi tanwydd a Rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, cyn i'r rhaglen
newydd ddechrau yn 2023.
Cylch gorchwyl
Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad oedd ystyried:
- Beth yw'r prif wersi a ddysgwyd o
Raglen Cartrefi Clyd bresennol Llywodraeth Cymru?
- Sut y gall y gwersi hyn helpu i
lywio'r fersiwn nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd er mwyn sicrhau ei bod yn
rhoi gwell cefnogaeth i’r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd, neu mewn
perygl o hynny? Yn benodol:
- beth ddylai'r meini prawf cymhwysedd
fod ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref,
- a ddylai’r dull sy'n seiliedig ar
ardal, o fynd i'r afael â thlodi tanwydd (Arbed), barhau,
- pa gymorth penodol y dylid ei
ddarparu i ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd gwledig?
- sut y gellir annog landlordiaid y
sector preifat i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith tenantiaid?
- sut y gall unrhyw gynllun(iau) olynol
wella ar yr ystyriaethau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol?
- Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau
bod y fersiwn nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd yn cyd-fynd yn well â'i
hymdrechion i ddatgarboneiddio tai Cymru?
Casglu tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad a
chafwyd pedwar ar ddeg o ymatebion. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau
tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys melinau trafod, elusennau ac
arbenigwyr yn y diwydiant ar y dyddiadau a ganlyn:
Adrodd
Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ddydd
Mercher, 18 Mai 2022.
Ar ôl ei gyhoeddi, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Jenny Rathbone AS:
“Mae tlodi tanwydd bellach
yn argyfwng cenedlaethol ac mae prisiau ynni uchel, yn enwedig o ran nwy, yn
parhau i godi. Os yw Llywodraeth Cymru o
ddifrif ynghylch helpu pobl mewn tlodi tanwydd y gaeaf hwn, mae angen iddi
fabwysiadu mesurau brys i wella cynhesrwydd cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n
wael na all teuluoedd fforddio eu gwresogi."
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/12/2021
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd (Wedi ei gyflawni)