Diogelwch menywod a thrais ar sail rhywedd

Diogelwch menywod a thrais ar sail rhywedd

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn ystyried cynnal ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Fel rhan o'i ystyriaeth gychwynnol, ac i gydnabod ehangder y pwnc, cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth bord gron gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn llywio ei ddull gweithredu.

 

Yn dilyn y sesiwn hon, ac o ganlyniad i’r adborth a dderbyniwyd, cytunodd y Pwyllgor i fwrw ymlaen â’i waith fesul cam:

 

1. Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad byr i Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – menywod mudol. Amlygodd trafodaethau yn ystod y sesiwn bord gron fenywod mudol fel grŵp allweddol sy’n cael eu esgeuluso, nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu’n briodol ar hyn o bryd ac sy’n debygol o brofi trais mewn ffordd wahanol i ferched a menywod eraill. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 26 Hydref 2022.

 

2. Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd, a bydd yn cymryd tystiolaeth yn ystod Gwanwyn/Haf 2023.

 

Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn i’w gweld ar y wefan hon.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2022