Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd

Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd

Inq4

 

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd.  Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa mor effeithiol fu’r ymdrechion i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd, a beth arall y gellid ei wneud.

 

Cylch gorchwyl

 

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

>>>> 

>>>    Tynnu sylw at yr hyn sy'n gweithio i atal trais ar sail rhywedd cyn iddo ddigwydd (atal sylfaenol) ac ymyrryd yn gynharach i atal trais rhag gwaethygu (atal eilaidd).

>>>    Ystyried pa mor effeithiol fu’r ymdrechion i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd a beth arall y mae angen i wneud i ymdrin ag anghenion grwpiau gwahanol o fenywod, gan gynnwys LHDT+, lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc a hŷn sydd mewn perygl o ddioddef trais yn y cartref ac mewn mannau cyhoeddus.

>>>    Rôl y sector cyhoeddus a gwasanaethau arbenigol (gan gynnwys yr heddlu, ysgolion, y GIG, y trydydd sector a sefydliadau eraill y mae menywod a merched yn troi atynt am gymorth) wrth nodi trais yn erbyn menywod, mynd i’r afael â’r math hwn o drais a’i atal, a’u rôl nhw yn y gwaith o gynorthwyo dioddefwyr a goroeswyr.

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad a chafodd 21 ymateb. Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar hefyd gyda rhanddeiliaid ar y dyddiadau isod, lle gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a sefydliadau trydydd parti.

>>>> 

>>>    22 Mai 2023

>>>    12 Mehefin 2023

>>>    19 Mehefin 2023

>>>    10 Gorffennaf 2023

>>>    11 Medi 2023

<<< 

 

Yn dilyn y sesiynau tystiolaeth, rhoddwyd y wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Pwyllgor:

 

Uned Atal Trais Cymru

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion, DECIPHer

Surviving Economic Abuse

Platfform

Royal College of General Practitioners Cymru

Lloyds Banking Group

Dr Rachel Fenton ar sut mae prifysgolion Prydain yn herio trais ac aflonyddu rhywiol ar y campws

 

 

Yr adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: “Sut y mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig mewn trais ar sail rhywedd” ddydd Llun 15 Ionawr 2024.

 

Lluniodd y Pwyllgor adroddiad cryno hefyd sy’n trafod rhai o’r themâu allweddol.

 

Ar ôl ei gyhoeddi, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Jenny Rathbone AS:

 

“Mae dwy fenyw yr wythnos yn cael eu lladd gan bartner cyfredol neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr. Bydd un o bob tair menyw yn dioddef cam-drin domestig yn ystod ei hoes. Oherwydd diffyg adrodd, mae’n debygol bod y ffigurau swyddogol yn tanamcangyfrif gwir faint y broblem warthus hon. 

 

Mae pob un sy’n dioddef yn yr epidemig hwn yn un yn ormod. I roi diwedd arno, rhaid inni i gyd chwarae ein rhan – yn enwedig dynion a bechgyn – drwy fynd i’r afael â’r gwir achosion.”

 

Caiff dadl yn y Cyfarfod Llawn ei chynnal ar 8 Mai 2024.

 

Rhagor o wybodaeth

Mae’r ymchwiliad yn rhan o waith y Pwyllgor ar ddiogelwch menywod a thrais ar sail rhywedd.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/03/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau