Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: menywod mudol

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: menywod mudol

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn ystyried ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Fel rhan o'i ystyriaeth gychwynnol, ac i gydnabod ehangder y pwnc, cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth bord gron gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn llywio ei ddull gweithredu.

 

Roedd ffocws y drafodaeth ar fenywod mudol fel grŵp allweddol a gaiff ei esgeuluso, nad yw ei anghenion yn cael eu diwallu ar hyn o bryd ac sy’n debygol o gael profiad o drais mewn ffordd wahanol i fenywod a merched eraill. O ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor ar 21 Mawrth 2022 i gynnal ymchwiliad cychwynnol, byr sy’n canolbwyntio ar fenywod mudol. Roedd yr ymchwiliad yn edrych ar ba rwystrau y mae menywod mudol yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at wasanaethau a beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y gall menywod mudol gael mynediad at wasanaethau sydd ag adnoddau llawn a hyfforddiant i ymdrin â normau ac arferion diwylliannol.

 

Ar gyfer y gwaith hwn, mabwysiadodd y Pwyllgor ddiffiniad eang o 'fenywod mudol' wrth iddo geisio gwella’i ddealltwriaeth o'r materion, a sut y maent yn gysylltiedig â'r cylch gorchwyl isod. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys (ond nid yw o reidrwydd yn gyfyngedig i) y rhai â statws mewnfudo parhaol neu dros dro, ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr heb eu dogfennu.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw ystyried:

 

>>>> 

>>>    Profiadau menywod mudol o drais ac i ba raddau y mae normau ac arferion diwylliannol yn cyfrannu at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (e.e. anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, cam-drin ar sail anrhydedd).

>>>    Cwmpas gwasanaethau ac ymyriadau arbenigol sydd â digon o adnoddau a hyfforddiant i gefnogi goroeswyr o gymunedau mudol, gan gynnwys diwallu anghenion diwylliannol ac ieithyddol.

>>>    Ystyried y rhwystrau sy’n atal menywod a merched mudol yng Nghymru rhag cael mynediad at wasanaethau, a rhwystrau ychwanegol a wynebir gan fenywod sydd â statws mewnfudo ansicr, neu y mae eu statws mewnfudo yn dibynnu ar briod neu gyflogwr, neu’r rhai nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus.

>>>    A allai Llywodraeth Cymru gymryd camau i liniaru’r effaith anghymesur y mae polisi mewnfudo’r DU yn ei chael ar oroeswyr yng Nghymru, a gwireddu ei dyhead mai ‘Cenedl Noddfa’ yw Cymru.

>>>    Effeithiolrwydd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, ac a yw'r rhain yn llwyddo i dargedu cymunedau mudol a chodi ymwybyddiaeth yn eu plith.

>>>    Dull Llywodraeth Cymru o atal cychwynnol, ac a wneir digon o ymdrech i atal trais cyn iddo ddigwydd, drwy weithio gyda grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd allweddol ar lawr gwlad, yn ogystal ag ysgolion i herio normau ac arferion diwylliannol.

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad a chafodd saith ymateb. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys elusennau a darparwyr gwasanaethau, ar y dyddiadau canlynol:

>>>> 

>>> 16 Mai 2022

>>> 6 Mehefin 2022

>>> 27 Mehefin 2022

<<<< 

 

Yn dilyn y sesiynau tystiolaeth, rhoddodd Southall Black Sisters gopi o adroddiad Domestic Abuse Bill and Migrant Women ac adroddiad Safe and Secure: The No Recourse Fund inni, a rhannodd Clymblaid Menywod Mudol Step Up adroddiad  Right to be Believed ac adroddiad  Preventing and addressing abuse and exploitation: a guide for police and labour inspectors working with migrants gyda ni.

 

Adrodd

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad o’r enw “Trais ar sail rhywedd: anghenion menywod mudol” ddydd Mercher 26 Hydref.

 

Ar ôl ei gyhoeddi, dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

"Mae bregusrwydd y grŵp hwn o fenywod yn gofyn am ddull wedi'i deilwra ar gyfer diogelu eu hawliau. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o ba mor agored i niwed yw menywod mudol, gyda rhai ohonynt mewn perygl o gaethwasiaeth a masnachu pobl. Mae'n hanfodol bod llais y goroeswyr yn cael ei glywed wrth ddatblygu polisi; dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod menywod mudol a'r rhai sy'n eu cefnogi yn parhau i gael eu cynrychioli ar bob lefel."

 

 

Ymateb y Llywodraeth

 

Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2022.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/03/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau