Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Altaf Hussain. Dirprwyodd Tom Giffard ar ei ran.

 

 

(13:30-14:30)

2.

Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Sesiwn dystiolaeth 3

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Dr Donal Brown, New Economics Foundation

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:

 

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Dr Donal Brown, New Economics Foundation

 

 

(14:45 -16:00)

3.

Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Sesiwn dystiolaeth 4

Ben Saltmarsh, National Energy Action

Jack Wilkinson-Dicks, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:

 

Ben Saltmarsh, National Energy Action

Jack Wilkinson-Dix, Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

 

(16:00)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r ohebiaeth.

 

Mewn perthynas ag Eitem 4.1, cytunodd yr Aelodau mewn sesiwn breifat y byddai'r Pwyllgor yn ysgrifennu at Sparkle a derbyn eu gwahoddiad i ymweld â'r ganolfan.

 

4.1

Gohebiaeth gan Sparkle: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar ofal plant a chyflogaeth rhieni

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Amcangyfrif Cyllideb Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2022-23

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cyllideb Ddrafft 2022-23

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan Jane Dodds: Cynllun gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – Hawliau cymunedol

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rôl byrddau iechyd o ran diogelu menywod a phlant a allai fod yn dioddef cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

4.6

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Dogfennau ategol:

4.7

Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

Dogfennau ategol:

4.8

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Cyllideb ddrafft 2022-23

Dogfennau ategol:

4.9

Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Recriwtio gyrwyr cerbydau nwyddau trwm

Dogfennau ategol:

4.10

Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Ymateb i argymhellion y Pwyllgor ynghylch Cyllideb Ddrafft 2022-2023

Dogfennau ategol:

(16:00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(iv) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(16:10-16:25)

6.

Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.

Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Nwy Prydain, a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r ymchwiliad.

 

(16:25-16:45)

7.

Y flaenraglen waith: trafod papurau cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r flaenraglen waith a’r papurau cwmpasu

 

(16:45-17:00)

8.

Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998: y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998.