Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan James Evans. Croesawodd y Pwyllgor Peter Fox, a oedd yn dirprwyo ar ei ran.

(13.30 – 14.30)

2.

Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Michael Kay, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Etholiadau, Llywodraeth Cymru

Gareth McMahon, Uwch-gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Datganiad o Fwriad y Polisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

(14.35 - 14.40)

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

3.1

SL(6)403 - Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio, Darpariaeth Drosiannol a Dirymu) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

3.2

SL(6)411 - Rheoliadau'r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(14.40 – 14.50)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

4.1

SL(6)402 - Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru (rhoddwyd copi caled ohono i Aelodau) a chytunwyd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

4.2

SL(6)404 - Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

4.3

SL(6)405 - Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

4.4

SL(6)406 - Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

4.5

SL(6)407 - Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

4.6

SL(6)408 - Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

4.7

SL(6)409 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2023.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru (rhoddwyd copi caled ohono i Aelodau) a chytunwyd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

4.8

SL(6)410 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

(14.50 - 14.55)

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

5.1

SL(6)393 - Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(14.55 - 15.00)

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan

Weinidog yr Economi.

6.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Rhestrau Sefydliadau) (Dirymu) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

(15.00 – 15.05)

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Ymchwil i baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

7.2

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

(15.05)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(15.05 - 15.25)

9.

Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunwyd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol gyda chwestiynau atodol.

(15.25 - 15.35)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft diwygiedig a chytunodd arno.

(15.35 - 16.05)

11.

Egwyddorion drafft ar gyfer deddfu drwy Filiau'r DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei egwyddorion drafft a chytunodd i drafod y mater ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.