Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/09/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(13.05 - 14.30)

2.

Sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog.

(14.35 - 14.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

3.1

SL(6)299 – Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru.

3.2

SL(6)370 - Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(14.40 - 14.45)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cysylltiadau rhwng y DU a’r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog.

4.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.

4.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.

(14.45 - 14.50)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Amgylchedd Bwyd Iach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog.

5.2

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.3

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Addysg Ddewisol yn y Cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

5.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith: Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

5.5

Cyflwyniad ysgrifenedig: Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig a ddarparwyd i’r ymchwiliad.

(14.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(14.50 - 15.10)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(15.10 - 15.25)

8.

Gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn craffu ar reoliadau sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ymateb i lythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch ei gynigion i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog i ganiatáu ar gyfer y gweithdrefnau sydd eu hangen ar gyfer craffu ar reoliadau sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.

(15.25 - 15.35)

9.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer yr wythnosau i ddod.

(15.35 - 15.50)

10.

Trafodaeth y Pwyllgor ar Filiau Cydgrynhoi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â Biliau Cydgrynhoi cyn adolygiad mwy sylweddol o’r broses graffu ar Filiau Cydgrynhoi.