Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 14.30) |
Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS,
Gweinidog Newid Hinsawdd Helen Rowley,
Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Rhian Williams,
Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru Olwen Spiller,
Dirprwy Bennaeth Diogelu’r Amgylchedd, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda nifer o
gwestiynau ychwanegol. |
|
(14.30 – 14.35) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)352 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)353 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(14.35 – 14.40) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch Rheoliadau Iechyd Planhigion ac Amodau Ffytoiechydol (Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw a Phlâu Planhigion) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
(14.40 – 14.45) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Datganiadau mewn perthynas â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol
dros yr Adran Busnes a Masnach. |
||
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Fframwaith Windsor y DU-UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Prif Weinidog. |
||
(14.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.45 – 15.00) |
Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y
Gweinidog Newid Hinsawdd a chytunwyd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod
yn y dyfodol. |
|
(15.00 – 15.15) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at
y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth ac i ystyried ei adroddiad drafft mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(15.15 – 15.30) |
Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) - y datblygiadau diweddaraf Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ddatblygiadau diweddar mewn
perthynas â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a chytunodd i
ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ofyn am ragor
o wybodaeth. |