Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwarchodaeth Rhag Aflonyddu Ar Sail Rhyw Yn Gyhoeddus

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwarchodaeth Rhag Aflonyddu Ar Sail Rhyw Yn Gyhoeddus

Cafodd y Bil Gwarchodaeth Rhag Aflonyddu Ar Sail Rhyw Yn Gyhoeddus (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ar 7 Rhagfyr 2022.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai Bil "i wneud darpariaeth ynghylch achosi aflonyddu bwriadol, braw neu ofid i berson yn gyhoeddus lle mae'r ymddygiad yn cael ei wneud oherwydd rhyw y person hwnnw; ac at ddibenion cysylltiedig."

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gwarchodaeth Rhag Aflonyddu Ar Sail Rhyw Yn Gyhoeddusyn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mehefin 2023.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Ebrill 2023

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 194KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 17 Ebrill 2023.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 18 Mai 2023 (PDF 42.4KB).

 

9 Mai 2023, cytunodd (PDF 42.6 KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 8 Mehefin 2023.

 

Ar 1 Mehefin 2023 cytunodd Llywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (178 KB) mewn perthynas â'r Bil.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 151KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer  Bil Gwarchodaeth Rhag Aflonyddu Ar Sail Rhyw Yn Gyhoeddus ar 7 Mehefin 2023.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 162KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer  Bil Gwarchodaeth Rhag Aflonyddu Ar Sail Rhyw Yn Gyhoeddus ar 8 Mehefin 2023. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 9 Mehefin 2023 (Saesneg yn unig).

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/04/2023

Dogfennau