Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(12.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Anfonodd Alun Davies AS a Peredur Owen Griffiths AS eu hymddiheuriadau. Roedd Mike Hedges AS a Mabon ap Gwynfor yn dirprwyo ar eu rhan.

Datganodd James Evans fuddiant perthnasol.

(12.30 - 13.30)

2.

Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidogion

Leslie Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

James Owen, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diwygio Rheoli Tir, Llywodraeth Cymru

Dorian Brunt, Uwch-gyfreithiwr, Adran Gwasanaethau Cyfreithiol - Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

William Cordingley, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Adran Gwasanaethau Cyfreithiol – Bywyd Gwyllt, Llywodraeth Cymru

 

Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol

Datganiad o Fwriad y Polisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). 

(13.30 - 13.35)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

3.1

SL(6)277 - Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

3.2

SL(6)281 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

(13.35 - 13.40)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

4.2

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydain-Iwerddon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r llythyr gan y Prif Weinidog.

(13.40 - 13.45)

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog

5.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog

5.3

Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: SL(6)284 - Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i ymateb.

(13.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y Cynnig.

(13.45 - 14.00)

7.

Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru).  Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau pellach ac ystyried materion o bwys i'w cynnwys yn ei adroddiad.

(14.00 - 14.10)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diogelwch Ar-lein

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(14.10 - 14.20)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 2, a chytunodd arnynt. Nododd y Pwyllgor hefyd yr ohebiaeth rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

(14.20 - 14.30)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd arno.

(14.30 - 14.40)

11.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-34, a chytunodd arno.

(14.40 - 14.50)

12.

SICM(6)1 - Gorchymyn Newid Hinsawdd (Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Targedu) 2022: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, a llythyr cyfatebol at y Pwyllgor Busnes, a chytunodd arnynt.