Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 03/10/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan James Evans AS. Dirprwyodd Peter Fox AS ar ei ran |
|
(13.30 - 14.30) |
Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Julie James AS, y
Gweinidog Newid Hinsawdd Nick Howard, Uwch
Gyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru Richard Clark,
Pennaeth Ansawdd Amgylchedd Lleol, Llywodraeth Cymru Hefin Gill,
Cyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru Y Bil Diogelu'r
Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Fil Diogelu'r Amgylchedd
(Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Gohiriwyd y
Pwyllgor am ychydig amser yn ystod y sesiwn dystiolaeth oherwydd materion
technegol o ran cysylltiad rhyngrwyd y Cadeirydd. |
|
(14.30 - 14.35) |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)257 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: The Committee
noted the response from the Welsh Government. |
||
SL(6)258 - Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(14.35 - 14.40) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Llywodraeth Leol a Chymunedau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth - System Gwybodaeth am Feddyginiaethau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y llythyr gan y Gweinidog. |
||
(14.40 - 14.45) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac Oxfam Cymru: Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y llythyr ar y cyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) ac Oxfam Cymru ar y Cerdyn Sgorio
Ffeministaidd ar gyfer 2022. |
||
(14.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.45 - 14.55) |
Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Fil Diogelu'r Amgylchedd
(Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a chytunwyd ar y materion allweddol sydd
i’w cynnwys yn yr adroddiad drafft. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y
Pwyllgor Busnes i ofyn am eglurder ynghylch ystyriaeth y Senedd o’r Bil yng
Nghyfnod 1. |
|
(14.55 - 15.15) |
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ymatebion y rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o’i alwad wedi’i
thargedu am dystiolaeth ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). |
|
(15.15 - 15.25) |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a
chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(15.25 - 15.35) |
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 26 Medi
2022, a chytunodd arno. |
|
(15.35 - 15.55) |
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith a chytunwyd ar ei ddull ar
gyfer ystyried Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Llywodraeth y
DU. |
|
Adroddiad blynyddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar ei adroddiad blynyddol, yn amodol ar fân ddiwygiadau, a chytunodd i
ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ar ddyddiad a gadarnheir ym
mis Tachwedd 2022. |