Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/06/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. Dirprwyodd James Evans AS ar ei ran.

 

 

(13.30-13.35)

2.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

2.1

Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru: Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

 

 

(13.35-13.55)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd: Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Caffael

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

 

3.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

 

3.3

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefn: Cysylltiadau rhyngseneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefn.

 

 

3.4

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Gorchymyn Adolygu Harbwr Abertawe (Cau Doc Tywysog Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

 

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.47, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am 19 munud oherwydd materion technegol.

 

 

3.5

Gohebiaeth gan y Llywydd: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd.

 

 

3.6

Gohebiaeth â'r Llywydd a'r Gwir Anrhydeddus Syr Oliver Heald QC AS: cyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Llywydd ac Arweinydd a Chyd-gadeirydd Dirprwyaeth y DU i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE.

 

 

3.7

Gohebiaeth gan Bwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi: Cytundeb Rhyngwladol - Confensiwn ar y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Cymhorthion Mordwyaeth Forol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷr Arglwyddi.

 

 

3.8

Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwaharddiad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ar gyfer plastigau untro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a'r Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

 

(13.55)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(13.55-14.10)

5.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein, yn ogystal â’r Nodyn Cyngor Cyfreithiol a'r ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chytunodd i drafod ei adroddiad yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

(14.10-14.20)

6.

Trafod cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

·         Confensiwn Cyngor Ewrop ar Atal a Threchu Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig (“Confensiwn Istanbwl”)

·         Y cytundeb rhwng y DU a Ffrainc ar gydweithio ar faterion sy’n gysylltiedig â diogelwch morol a diogelwch porthladdoedd, ac yn benodol mewn perthynas â llongau sy’n cludo teithwyr yn y Sianel (“Cytuniad Diogelwch Morwrol”).

Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau hyn yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

(14.20-14.40)

7.

Cytundebau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur gan Dr Gregory Davies.

 

 

(14.40-15.00)

8.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion sy’n gysylltiedig â'i flaenraglen waith.