Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Iaith Arwyddion Prydain
Cyflwynwyd y Bil Iaith Arwyddion Prydain
(y Bil BSL) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 16 Mehefin 2021.
Mae teitl hir y
Bil BSL yn nodi mai ei ddiben yw “i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain fel iaith
Cymru, Lloegr a’r Alban; i’w gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol
gyflwyno adroddiad ar hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain
gan adrannau gweinidogol y Llywodraeth; a’i gwneud yn ofynnol i gyhoeddi
canllawiau mewn perthynas ag Iaith Arwyddion Prydain.”
Mae'r Bil BSL yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar
fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd y Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iaith Arwyddion Prydain yn y Cyfarfod
Llawn ar 26 Ebrill 2022.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 126KB) ar y Bil BSL gerbron y Senedd ar 8
Mawrth 2022.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol, a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn
26 Mai 2022 (PDF 41.8KB).
Ar 22 Mawrth
2022, cytunodd (PDF
49.7KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 26 Ebrill 2022.
Gosododd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
137KB) ar 25 Ebrill 2022.
Cyflwynodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol ei adroddiad
ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 25 Ebrill 2022 (PDF 137KB).
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2022